Neidio i'r cynnwys

Evan Evans (Gŵr busnes)

Oddi ar Wicipedia
Evan Evans
Ganwyd8 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
Betws Leucu Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 1965 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson busnes Edit this on Wikidata

Gŵr busnes oedd Evan Evans (8 Tachwedd 1882 - 24 Gorffennaf 1965)[1]. Cafodd ei eni ym Metws Leucu, Ceredigion yn fab hynaf Elizabeth Evans. Pan oedd yn bymtheg oed, aeth i weithio yn siop laeth ei gefnder yn Marylebone, Llundain. Ei unig iaith oedd Cymraeg, felly aeth i wersi nos i ddysgu Saesneg.

Pan oedd yn ugain oed, roedd e’n berchen ar siop laeth ei hun, fferm, gwesty a busnes gwerthu ceir. Sefydlodd gwmni twristiaeth Evan Evans Tours Ltd yn 1933[2].

Yn 1933, rhoddodd hysbyseb ym mhapur newydd Cymry Llundain Y Ddolen i werthu tocynnau ar ei awyren ef o Lundain i Sioe Llangeitho.[3]

Priododd Nancy Meurig Davies yn 1936. Rhwng 1939 a 1941 roedd yr Henadur Evan Evans yn faer ar arldal St Pancras, Llundain.

Urddwyd ef i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964, a'i enw barddol oedd Ifan Gwynfil.

Bu farw yn 1965 ac fe’i gladdwyd yn mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "EVANS, EVAN (1882 - 1965), gŵr busnes | Y Bywgraffiadur Cymreig". Cyrchwyd 2024-01-15.
  2. "Evan Evans Tours". Evan Evans. Cyrchwyd 2024-01-15.
  3. "Capel Gwynfil, Llangeitho". Capel Gwynfil, Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-15.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.