Capel Gwynfil
Gwedd
![]() | |
Math | capel ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangeitho ![]() |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 109.4 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.219°N 4.0209°W ![]() |
Cod post | SY25 6TW ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Capel y Methodistiaid Calfinaidd sydd wedi ei leoli yn Llangeitho yw Capel Gwynfil.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd Capel Gwynfil ei adeiladu yn 1760[2] ar gyfer cymuned Fethodistiaeth Galfinaidd, a sefydlwyd yn 1735. Mae gan y capel gysylltiadau cryf gyda Daniel Rowland, sef gweinidog Methodistaidd ac un o sefydlwyr Methodistiaid Calfinaidd. Tu allan i’r capel mae yna gerflun ohono. Cafodd y capel ei ail-adeiladu yn 1764, 1813 a 1861–1863,[3] i gynllun John Lumley, Aberystwyth.
Ar un adeg ystyrid Llangeitho yn ‘Gaersalem’ y Methodistiaid yng Nghymru, a byddai yn agos i 10,000 o addolwyr yn teithio yma bob Sul i wrando ar Daniel Rowland a derbyn cymun ganddo.[4]
![Statue_of_Daniel_Rowland_-_geograph.org.uk_-_5502970](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ea/Statue_of_Daniel_Rowland_-_geograph.org.uk_-_5502970.jpg/220px-Statue_of_Daniel_Rowland_-_geograph.org.uk_-_5502970.jpg)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Gwynfil, Llangeitho | The Presbyterian Church of Wales" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Llangeitho Llangeitho Community Council". Cyngor Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Capel Gwynfil, Llangeitho". Capel Gwynfil, Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-16.