Eusko Alkartasuna
| Enghraifft o: | plaid wleidyddol yng Ngwlad y Basg, plaid wleidyddol |
|---|---|
| Cyllideb | democratiaeth gymdeithasol |
| Rhan o | Euskal Herria Bildu, Euskal Herria Bai |
| Dechrau/Sefydlu | 4 Medi 1986 |
| Aelod o'r canlynol | Cynghrair Rhydd Ewrop |
| Pencadlys | Donostia |
| Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
| Gwefan | http://www.euskoalkartasuna.eus/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04ff2n |

Plaid genedlaethol Fasgaidd yw Eusko Alkartasuna (EA, "Undod Basgaidd"). Mae'n blaid sosial-ddemocrataidd anenwadol, sy'n anelu at annibyniaeth i Wlad y Basg. Mae'n o a aelod-bleidiau ffederasiwn Euskal Herria Bildu. Ystyrir ei bod ar y chwith o'r blaid genedlaethol fwyaf, Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ - PNV). Mae'n weithgar yn y rhannau Basgaidd o Sbaen a Ffrainc. Mae gan y blaid tua 6,000 o aelodau.
Ffurfiwyd y blaid yn 1986, gan gyn-aelodau o Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg. Yn etholiad Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg y flwyddyn honno, enillodd dros 180,000 o bleidleisiau, 15.84% o'r cyfanswm. Yn Navarra, enillodd 7.1% o'r bleidlais. Ar un adeg, roedd y blaid yn rhan o lywodraeth glymblaid gyda Phlaid Genedlaethol Gwlad y Basg. Mae ganddi un aelod o Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop.
Adain ieuenctid Eusko Alkartasuna yw Gazte Abertzaleak.