Eugene Cernan

Oddi ar Wicipedia
Eugene Cernan
GanwydEugene Andrew Cernan Edit this on Wikidata
14 Mawrth 1934 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Purdue
  • Naval Postgraduate School Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog yn y llynges, gofodwr, peilot awyren ymladd, hunangofiannydd, person busnes, peiriannydd awyrennau, naval aviator Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auY Groes am Hedfan Neilltuol, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Gwobr 'Hall of Fame' i Ofodwyr UDA, Grand Officer of the Order of the White Double Cross, NASA Distinguished Service Medal, International Space Hall of Fame, Washington Award, Wright Brothers Memorial Trophy Edit this on Wikidata

Gofodwr, awyrennwr llyngesol, peiriannydd trydanol, peiriannydd awyrenegol a peilot-ymladdwr o Americanwr oedd Eugene Andrew "Gene" Cernan, CAPT, USN (/ˈsər.nən/; 14 Mawrth 193416 Ionawr 2017), ac y dyn olaf i gerdded ar y Lleuad ym 1972.

Teithiodd i'r gofod deirgwaith: fel Peilot y Gemini 9A ym mis Mehefin 1966, fel Peilot y Modiwl Lleuad ar Apollo 10 ym mis Mai 1969, ac fel Rheolwr Apollo 17 ym mis Rhagfyr 1972, y glaniad olaf o deithiau Apollo ar y lleuad. Ar Apollo 17, daeth Cernan yr unfed person ar ddeg i gerdded ar y Lleuad a'r dyn mwyaf diweddar i gerdded ar y Lleuad, gan mai fe oedd yr olaf i fynd nôl mewn i'r Modiwl Lleuad Challenger ar ôl y trydedd gweithgaredd allgerbydol (EVA), yr olaf yn y daith. Roedd Cernan hefyd yn aelod wrth gefn o'r criw ar gyfer teithiau gofod Gemini 12, Apollo 7 ac Apollo 14.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cernan ar 14 Fawrth 1934, yn Chicago, Illinois, yn fab i Rose (Cihlar) ac Andrew Cernan. Roedd ei dad o dras Slofacaidd ac roedd ei fam o dras Tsiecaidd.[1][2] Magwyd Cernan yn nhrefi maestrefol Bellwood a Maywood. Roedd Cernan yn Sgowt ac enillodd rheng Ail Ddosbarth.[3] Ar ôl graddio o Proviso East High School yn Maywood yn 1952, mynychodd Prifysgol Purdue, lle daeth yn aelod o'r frawdoliaeth Phi Gamma Delta. Derbyniodd Baglor yn y Gwyddorau, gradd mewn Peirianneg Drydanol yn 1956, lle roedd ei GPA terfynol yn 5.1 allan o 6.0.[4]

Roedd ei ddiddordebau yn cynnwys hoffter am geffylau, chwaraeon, hela, pysgota, a hedfan.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Cernan mewn ysbyty yn Houston ar 16 Ionawr 2017, yn 82 oed.[5]

Mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod]

Siwt ofod Cernan wedi ei arddangos yn Amgueddfa Cenedlaethol Awyr a Gofod yn Washington, D. C.

Ar 2 Gorffennaf 1974, roedd Cernan yn un o bryfocwyr Don Rickles ar The Dean Martin Celebrity Roast. Ar ddiwedd y rhaglen, talodd Rickles (a fynychodd lansiad Apollo 17) deyrnged i Cernan fel "arwr mawr, hyfryd, gwych."[6] Ymddangosodd Cernan yng nghyfres fer o raglenni dogfen y Discovery Channel When We Left Earth: The NASA Missions, gan roi sylwebaeth am ei deithiau a gweithgaredd fel gofodwr.[7] Yng nghyfres fer HBO From the Earth to the Moon (1998) a enillodd wobr Primetime Emmy, fe'i bortreadwyd gan Daniel Hugh Kelly.[8]

Roedd gan Cernan stori am ysgrifennu llythrennau cyntaf ei ferch, Tracy, ar graig ar y Lleuad (nid rhywbeth a wnaeth mewn gwirionedd - fe'i sgrifennodd yn fras yn y tywod), a fe'i grybwyllir yn amlwg yn yr 20fed pennod o drydydd cyfres Modern Family. Cafodd y stori, a perthynas Cernan â'i ferch, yn gyffredinol, ei haddasu yn ddiweddarach i gân "Tracy's Song" gan y band pop-roc No More Kings. Er na ysgrifennodd enw ei ferch ar garreg, dywedodd Cernan ei hun ar raglen ddogfen The Last Man on the Moon (2014) ei fod wedi eu ysgrifennu yn llwch y lleuad wrth iddo adael y rover i ddychwelyd i'r LEM a'r Ddaear.[9]

Samplwyd llais Cernan llais o daith Apollo 17 gan Daft Punk ar albwm Random Access Memories (2013) y ddeuawd, ar y trac olaf o'r enw "Contact".[10] Defnyddiwyd geiriau olaf Cernan ar wyneb y lleuad, ynghyd â atgofion Peilot Modiwl Lleuad Harrison Schmitt, gan y band Public Service Broadcasting ar gyfer y gân Tomorrow, y trac terfynol ar eu halbwm 2015 The Race for Space.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans, Ben (2 April 2010). "Escaping the Bonds of Earth: The Fifties and the Sixties". Springer Science & Business Media – drwy Google Books.
  2. https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:KW46-SSG
  3. "Scouting and Space Exploration". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Educational background". Airport Journals. Cyrchwyd 3 Awst 2016.
  5. "Remembering Gene Cernan". NASA. 16 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-16. Cyrchwyd 16 Ionawr 2017.
  6. "Don Rickles". Dean Martin Celebrity Roast. Season 1. Episode 17. 7 Chwefror 1974. NBC.
  7. Schwartz, John (6 Mehefin 2008). "50 Years of NASA's Home Movies". The New York Times. Cyrchwyd 17 Ionawr 2017.
  8. "Cast". IMDB. Cyrchwyd 17 Ionawr 2017.
  9. "Last Man on Moon Left Camera Behind, Regrets NASA's Fade". Bloomberg. 4 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 19 Mehefin 2016.
  10. "Watch DJ Falcon discuss new Daft Punk album, sampling NASA space missions". Consequence of Sound. 2013-05-07. Cyrchwyd 2013-05-14.
  11. "Public Service Broadcasting - The Race For Space". therevue.ca. 2015-02-15.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: