Eryr Gwern Abwy

Oddi ar Wicipedia
Gwrhyr ac Eidoel yn holi Eryr Gwern Abwy. Darlun gan John D. Batten ar gyfer Celtic Fairy Tales Joseph Jacob (1892).

Un o'r Anifeiliaid Hynaf yn chwedloniaeth Cymru yw Eryr Gwern Abwy. Cyfeirir at yr eryr mytholegol hwn yn chwedl Culhwch ac Olwen.

Un o'r Anoethau (tasgau amhosibl) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr yn y chwedl honno yw rhyddhau Mabon fab Modron o'i garchar. Cais Culhwch gymorth Arthur. Anfona'r brenin Bedwyr, Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel ar neges i geisio gwybodaeth am Fabon gan yr Anifeiliaid Hynaf.

Y cyntaf o'r anifeiliaid a holant yw Mwyalchen Cilgwri. Er hyned ydyw, ni ŵyr y fwyalchen lle mae Mabon, ond mae'n eu gyrru at anifail hŷn, sef Carw Rhedynfre. Ni ŵyr y carw chwaith, ac mae'n eu gyrru ar Dylluan Cwm Cowlyd. Cyfarwydda'r dylluan hwy at Eryr Gwern Abwy. Ni ŵyr yr eryr, ond mae'n eu tywys at Eog Llyn Llyw a gyda chymorth yr Eog mae'r arwyr yn darganfod Mabon fab Modron ac mae Arthur a'i ryfelwyr yn ei ryddhau o'i garchar yng Nghaerloyw.

Yn y Trioedd, enwir Tri Hynaif Byd fel Tylluan Cwm Cowlyd, Eryr Gwern Abwy a Mwyalchen Gelli Gadarn.

Mae'r eryr yn aderyn pwysig ym mytholeg y Celtiaid. Fe'i cysylltir â'r Haul. Yn y Mabinogi, mae Lleu Llaw Gyffes yn troi'n eryr ar ôl cael ei daro gan waywffon Gronw Pebr. Mae lleoliad Gwern Abwy yn anhysbys.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.) Culhwch and Olwen: an edition and study of the oldest Arthurian tale (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992) ISBN 0-7083-1127-X