Emmeline Lewis Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Emmeline Lewis Lloyd
Ch i dde: anhysbys, Emmeline Lewis-Lloyd, Jean Charlet ac Isabella Straton yn yr Alpau
Ganwyd 18 Tachwedd 1827
plasty yng Nhwm Elan, Powys
Bu farw 22 Medi 1913(1913-09-22) (85 oed)
Llundain, Lloegr
Cenedl Cymraes

Dringwr mynyddoedd oedd Emmeline Lewis Lloyd (18 Tachwedd 182722 Medi 1913). Roedd hi'n aelod o'r criw cyntaf o ddringwyr i lwyddo i ddringo Aiguille du Moine yn 1871 dan arweiniad Jean Charlet.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Lloyd yn enedigol o Nantgwyllt, plasty yng Nhwm Elan a foddwyd wrth greu Cronfa'r Caban Coch.[1] Hi oedd pedwaredd ferch Thomas Lewis-Lloyd, Ustus Heddwch ac Siryf Sir Aberteifi yn 1822.[2] roedd hi'n ferch annibynnol ei natur a chadwai dyddyn bychan yn Llandyfaelog Fach, lle magai geffylau mynydd.[1]

Dringo[golygu | golygu cod y dudalen]

yn 1870 gorchfygodd Monte Viso[3] - y ferch gynatf - wneud hynny. Y flwyddyn wedyn dringwyd Aiguille du Moine gyda Joseph Simond yn arwain. Gyda chopa 3,412 m o uchter, mae gofyn i'r dringwyr abseilio ar raff i lawr i droed y mynydd.[4] Ymddeolodd o'i chrefft dringo yn 1873; daliodd ei phartner Straton i ddringo gyda Jean Charlet[3] gan ei briodi ychydig yn ddiweddarach.

Marw[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Hampstead Hill Gardens, Llundain a dychwelwyd y corff i Lansanffraid Cwmdeuddwr.[3] Ceir cofeb iddi yno yr eglwys - cofeb a symudwyd o'r hen eglwys a foddwyd, Eglwys Nantgwyllt. Dywed y gofeb mai hi oedd yr wythfed ferch i ddringo Mont Blanc.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 LEWIS LLOYD , EMMELINE, Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein, Adalwyd 8 Rhagfyr 2016.
  2. Nicholas, Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Cyfrol 2; tud. 924
  3. 3.0 3.1 3.2 Hansen, Peter H. (2004). "Straton, (Mary) Isabella Charlet- (1838–1918)". Oxford Dictionary of National Biography. Gwasg Rhydychen. 
  4. Aiguille du Moine, summitpost.og, adalwyd 6 Ebrill 2014
  5. "Llanwrthwl to Cwmdeuddwr Walk". http://www.rhayader.co.uk/things-to-do/all?page=1. Adalwyd 6 Mai 2015.