Emlyn Evans

Oddi ar Wicipedia
Emlyn Evans
Ganwyd1923 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Tachwedd 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolygydd Edit this on Wikidata

Golygydd ac athro oedd Emlyn Evans (192313 Tachwedd 2014) yn oedd yn reolwr ar Llyfrau'r Dryw rhwng 1957 a 1965. Sefydlodd y cylchgrawn Barn ynghyd âg Alun Talfan Davies ac Aneirin Talfan Davies ym 1962, ac ef oedd y golygydd am y ddwy flynedd gyntaf. Rhwng 1968 a 1979 bu'n cyd-olygu Y Genhinen gyda'r Parch W. Rhys Nicholas.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni a'i fagu yn y Carnedd, Bethesda. Astudiodd beirianneg trydan, ffiseg a mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a bu'n dringo o fewn y diwydiant trydan gan ddod yn beirianydd cynorthwyol gyda'r Bwrdd Trydan Canolog yn Llundain. Daeth i sylw Aneirin Talfan Davies am ei waith blaenllaw yn sefydlu'r Gymdeithas Lyfrau Cymraeg yn Llundain a daeth yn rheolwr Llyfrau'r Dryw yn Llandybie. Bu'n parhau i gyhoeddi cyfres Crwydro Cymru a dechreuodd gyhoeddi y gyfres Barddoniaeth y Siroedd.[2] Ymddiswyddodd o fod yn rheolwr ym 1965 am fod yna anghytundeb ynglŷn â chyhoeddi nofel John Rowlands Ienctid Yw 'Mhechod [3] Roedd Emlyn Evans yn erbyn cyhoeddi.

Yn 1965 fe'i penodwyd ar staff Ysgol Syr Hugh Owen i ddysgu mathemateg. Yna yn 1978 daeth yn rheolwr-gyfarwyddwr Gwasg Gee yn Ninbych.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. / Gwefan Llais Llên
  2. Barn 623/4, tud. 25
  3. "/ Gwefan The Modern Nofel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-23. Cyrchwyd 2012-12-10.