Neidio i'r cynnwys

Emilia Broomé

Oddi ar Wicipedia
Emilia Broomé
Ganwyd13 Ionawr 1866 Edit this on Wikidata
Jönköpings Sofia church parish Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mehefin 1925 Edit this on Wikidata
Kungsholm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Alma mater
  • Wallinska skolan
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gwleidydd lleol, Q106580697, fredspolitiker, female supporter of women's right to vote, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, Q111363944 Edit this on Wikidata
Swyddcity council member, aelod o fwrdd, cadeirydd, cadeirydd, cadeirydd, aelod o fwrdd, cadeirydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party of Sweden, Cymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd Edit this on Wikidata
TadIsak Lothigius Edit this on Wikidata
PlantBirgit Broomé Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Illis Quorum Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Emilia Broomé (13 Ionawr 1866 - 2 Mehefin 1925); roedd hefyd yn wleidydd, yn athrawes ysgol uwchradd ac yn fredspolitiker. Ei henw llaw oedd Emilia Augusta Clementina Broomé, née Lothigius. Yn 1914, fe'i hetholwyd, fel y ferch gyntaf, i Gynulliad Cenedlaethol Sweden.

Fe'i ganed yn Jönköpings församling ar 13 Ionawr 1866; bu farw yn ninas Stockholm ac fe'i claddwyd ym "Mynwent y Gogledd".[1][2][3][4][5][6][7]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Wedi cyfnod yn astudio yn yr ysgol leol i fenywod, cafodd radd yn 'Wallinska skolan' ym 1883 a graddiodd mewn athroniaeth a meddygaeth yn Uppsala ym 1884. Wedi hynny, fe'i cyflogwyd yn athrawes yn ysgol Anna Whitlock yn Stockholm. [8][9][10]

Yr addysgwraig

[golygu | golygu cod]

Hi oedd cadeirydd Stockholmsföreningen o blaid kvinnans politiska rösträtt (sef Cangen Stockholm o Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Menywod) o'i sefydlu ym 1902 hyd at 1906. Roedd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr y CSA (Y Gymdeithas Lles Cymdeithasol) rhwng 1904 –1925, ac yn aelod o Gyfarwyddiaeth Addysg Stockholm.

Heddwch

[golygu | golygu cod]

Sefydlodd a bu'u gadeirydd Undeb Heddwch Menywod Sweden, o 1898 nes iddi uno ag Undeb Heddwch Sweden ym 1911, a gweithredodd hefyd fel cynrychiolydd Sweden yn y gynhadledd heddwch ryngwladol yn Haag yn 1899.

Y gwleidydd

[golygu | golygu cod]

Enwebwyd Emilia Broomé ar gyfer etholiad Cyngor Dinas Stockholm yn 1910 ac yn 1911. Fe'i hetholwyd i gyngor y ddinas yn ystod yr ail etholiad a gwasanaethodd rhwng 1911–1924. Hi oedd cadeirydd y merched rhyddfrydol 1917–1920.

Emilia Broomé oedd y fenyw gyntaf o Sweden i fod yn rhan o bwyllgor deddfwriaethol gwladwriaeth Sweden (Lagberedningen), a oedd yn paratoi cyfreithiau newydd a bu'n aelod o'r pwyllgor rhwng 1914–1918. Cymerodd ran yn y gwaith o ysgrifennu'r gyfraith briodas ddiwygiedig ym 1920, lle cafodd dynion a merched eu gwneud yn gyfartal yn llygad y gyfraith, a lle datganwyd bod y fenyw briod yn cael yr hawl i bleidleisio, yn cael cyflog cyfartal (1921) ac yn rhoi'r hawl i fenywod i gael eu cyflogi ym mhob proffesiwn swyddogol yn 1923.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Stockholm ar gyfer Hawl Gwleidyddol y Merched i Bleidleisio, a'r Undeb Ganolog ar gyfer Gwaith Cymdeithasol am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Illis Quorum (1916) .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
  2. Disgrifiwyd yn: "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
  3. Rhyw: http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
  4. Dyddiad geni: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Broome". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. "Emilia Broome". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Jönköpings Kristina (F) C:10 (1866-1879) Bild 11".
  7. Man claddu: "Broomé, EMILIA AUGUSTA E." Cyrchwyd 27 Mawrth 2017.
  8. Galwedigaeth: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020.
  9. Swydd: https://gupea.ub.gu.se/bitstream/handle/2077/362/rfkv1917_07_01_06.pdf?sequence=1&isAllowed=y. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449.
  10. Aelodaeth: "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Till regeringen från svenska kvinnor ingifna skrifvelser i rösträttsfrågan 1905-1906" (PDF). 1906. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2020. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020.