Elwyn Jones (dramodydd teledu)

Oddi ar Wicipedia
Elwyn Jones
Ganwyd19 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Cwmaman Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1982 Edit this on Wikidata
Llandysul Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata

Roedd Elwyn John Jones (19 Rhagfyr, 1923 - 19 Mai, 1982) yn awdur a chynhyrchydd teledu Cymreig. Roedd yn gyfrifol am gyd-greu'r gyfres ddrama heddlu enwog Z-Cars [1] ar gyfer Teledu'r BBC ym 1962. Aeth ymlaen i greu Softly, Softly (1966-69), Softly, Softly: Taskforce (1969-76), Barlow at Large / Barlow (1971, 1973-75), Jack the Ripper (1973) a Second Verdict (1976). Roedd yn awdur drama deledu doreithiog o ddechrau'r 1960au hyd ddiwedd y 1970au. Rhwng 1963 a 1966, ef oedd Pennaeth Drama (Cyfres) yn y BBC, o dan Bennaeth y Grŵp Drama Sydney Newman. Ef oedd deiliad cyntaf swydd Pennaeth Drama (Cyfres) ar ôl i Newman rannu'r grŵp drama yn adrannau Cyfres, Cyfresol a Dramâu. Ym 1966, cyd-ysgrifennodd gyda Gerry Davis, y sgript ar gyfer cyfres Doctor Who The Highlanders.[2]

Bywyd ac addysg gynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones ar 4 Mai 1923, yn Cwmaman, Aberdâr. Roedd ei dad, Evan Jones, yn gynghorydd lleol ac yn wiriwr pwysau yn y pwll glo. Mynychodd Ysgol Elfennol Cyngor Bechgyn Cwmaman rhwng 1930 a 1935, ac yna Ysgol Sir Bechgyn Aberdâr rhwng 1935 a 1942. Wedi hynny, astudiodd yn Ysgol Economeg Llundain, gan adael ym 1944.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Jones ei yrfa mewn newyddiaduraeth; yn gyntaf gyda'r New Review fel gohebydd, ac yna'n ddiweddarach fel golygydd nodweddion. Bu yno am chwe blynedd, nes i'r cylchgrawn darfod ym 1950. Yn y 1950au dechreuodd ei gysylltiad â'r BBC, fel cynorthwyydd i olygydd llenyddol y Radio Times, ac yn ddiweddarach fel Golygydd Teledu hyd 1957.

Rhwng 1957 a 1966, daeth yn awdur sgriptiau a chynhyrchydd toreithiog. Dangoswyd ei gynhyrchiad cyntaf yn Sunday Night Theatre ym 1959. Ym 1963, fe'i gwnaed yn Bennaeth Drama (Cyfres), gan ddal y swydd am y tair blynedd nesaf. Yn ystod yr amser hwn, cyd-greodd Z-Cars, a oedd yn cael ei ystyried yn ddewis amgen mwy realistig i Dixon of Dock Green. Ysgrifennodd sawl sgript ar gyfer Z-Cars, ei olynydd Softly, Softly, yr ailwampiad dilynol Softly, Softly: Taskforce, a Barlow at Large. Darlledwyd spinoffs pellach a oedd yn cynnwys cymeriad Barlow ym 1973 sef Jack the Ripper, ac eto ym 1976, yn Second Verdict. Roedd hefyd yn nodedig am gyd ysgrifennu'r sgript ar gyfer cyfres Doctor Who The Highlanders, a oedd yn cynnwys ymddangosiad cyntaf cydymaith yr ail Doctor, Jamie McCrimmon.

Daeth Jones yn awdur ar ei liwt ei hun o 1965 hyd ei farwolaeth ym 1982. Ysgrifennodd yn rheolaidd ar gyfer The Sunday Telegraph. Roedd yn awdur sawl nofel wir drosedd a nofelau a seiliwyd ar ei gymeriad teledu, Prif Arolygydd Charles Barlow, gan gynnwys:[3]

  • The Last Two to Hang (1966; enillodd Wobr Edgar Allan Poe gan y Mystery Writers of America),
  • The Ripper File (1973; a ysgrifennwyd ar y cyd â John Lloyd),
  • Barlow Comes to Judgement (1977)
  • Barlow Exposed (1977)
  • On Trial: Seven Intriguing Cases of Capital Crime (1978);
  • The Deep Concern (1979)
  • Death Files (1981).

Roedd yn aelod o Bwyllgor Drama Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwasanaethodd fel beirniad y cystadlaethau drama, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri 1968.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yn 1975, priododd Jones â Nancy Acly. Bu iddynt ferch. Ar 19 Mai 1982, bu farw Jones yn sydyn yn ei gartref ger Llandysul, Ceredigion yn 58 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dewhurst, K. (1990, Mai 14). Behind the wheel of Z cars and musketeers. The Guardian (1959-2003)
  2. "Aberdare Boys Grammar School: Elwyn Jones". www.abgs.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 2019-10-11.
  3. Amazon – awdur Elwyn Jones
  4. "Elwyn Jones". IMDb. Cyrchwyd 2019-10-11.
  5. Top TV series creator. The Guardian 20 Mai 1982