Einion II, Esgob Llanelwy
Gwedd
Einion II, Esgob Llanelwy | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | 1293, 5 Chwefror 1293 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Esgob Llanelwy, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol |
Clerigwr Cymreig oedd Einion II (Lladin: Anian II) (bu farw 1293), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1268 hyd ei farwolaeth yn 1293. Cyfeirir ato hefyd fel Einion ab Ynyr neu Einion o Nannau (Anian o Nannau).[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Bu'n esgob mewn cyfnod helbulus. Llosgwyd Eglwys Gadeiriol Llanelwy gan y Saeson yn 1292 yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.[1] Ailadeiladwyd yr eglwys gan Einion ar ôl hynny.
Cofeb
[golygu | golygu cod]Ceir delw o Einion II wedi'i cherfio o garreg yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae'n ddelw gonfensiynol sy'n dangos Einion mewn gwisg laes hir yn gorwedd ar ei gefn. Saif y ddelw yn erbyn mur deheuol ystlys deheuol yr eglwys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]