Eilir Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eilir Jones
Enw bedydd Eilir Jones
Geni (1963-07-26) 26 Gorffennaf 1963 (56 oed)
Cyfrwng Comedi stand-yp
Cenedligrwydd Cymro
Blynyddoedd gwaith c. 1986 - presennol
Genres Comedi gwledig, dychan, iaith ymylol
Gweithiau nodedig Ffarmwr Ffowc

Mae Eilir Jones (ganwyd 26 Gorffennaf 1963)[1] yn ddigrifwr, awdur a pherfformiwr o Gymro, a fagwyd ym Mlaenau Ffestiniog, yn Nhywyn, Gwynedd, Y Drenewydd a Dinas Mawddwy; gweinidog ac awdur oedd ei dad. Mae'n adnabyddus am greu cymeriadau gwirion ar lwyfan, sgrin a radio, fel y "Ffarmwr Ffowc", cymeriad ffraeth a gwledig ei dafod.

Sgwennodd Eilir y gyfrol Dyddiadur Ffarmwr Ffowc a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa.[2] a Meddyliau Eilir hefyd gan Wasg y Lolfa[3] Sgwennodd "Un Fach Flewog", "Bwletîn" a "Torri Calon" ar gyfer Radio Cymru a rhaglenni comedi Bwletin a Naw Tan Naw ar gyfer S4C. Gyda Theatr Bara Caws, perfformiodd "Un Fach Flewog", "Caffi Basra" a "Dal i Bwmpio".[4]

Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Tywyn, Gwynedd ac yna yn Ysgol y Gader, Dolgellau cyn gweithio fel nyrs seicatryddol yn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Yn 2013 roedd yn byw yn Llansannan ac roedd ganddo ddau o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Trydariad Dewi Llwyd (25 Gorffennaf 2015).
  2. Gwefan Linkedin; adalwyd 7 Hydref 2013.
  3. Gwasg y Lolfa broliant marchnata'r llyfr Meddyliau Eilir (2013)
  4. Neges ganddo ar Trydar; 8 Hydref 2013

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]