Neidio i'r cynnwys

Eilidh Whiteford

Oddi ar Wicipedia
Dr Eilidh Whiteford

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2010 – 3 Mai 2017

Geni (1969-04-24) 24 Ebrill 1969 (55 oed)
Aberdeen, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Banff a Buchan
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Glasgow ac yna yng Nghanada
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Eilidh Whiteford (ganwyd 24 Ebrill 1969) a oedd yn Aelod Seneddol dros Banff a Buchan rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn Aberdeen a Swydd Aberdeen, yr Alban. Mae Eilidh Whiteford yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganwyd yn Aberdeen a'i phriod yw Stephen Smith. Gweithiodd am rai blynyddoedd fel Darlithwraig ym Mhrifysgol Glasgow ac yna fel rheolwraig elusen Scottish Carers' Alliance ac Oxfam.

Etholiad 2010

[golygu | golygu cod]

Wedi ei hethol yn Etholiad Cyffredinol 2010, fe'i gwnaed yn Llefarydd dros Fwyd, Pysgota a Materion Gwledig.

Etholiad 2015

[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Eilidh Whiteford 27487 o bleidleisiau, sef 60.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +19 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 14339 pleidlais.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]