Eglwys Sant Ilar

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Ilar
Matheglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIlar Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1380 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanilar Edit this on Wikidata
SirLlanilar Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr39.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3566°N 4.02223°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iIlar Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcarreg Edit this on Wikidata

Yng nghanol pentref Llanilar, saif Eglwys Sant Ilar unig eglwys Ilar, y sant o ganrif 6.[1] Cofrestrwyd yr eglwys ganoloesol hon gan Cadw yn Ionawr 1964 ar Radd II* oherwydd ei bod yn dyddio o'r Oesoedd Canol a bod ei tho pren, cerfiedig, yn nodedig iawn (Rhif cofrestru: 9840). Mae ei thŵr sgwâr o ganrif 14 hefyd yn nodwedd hynod o drawiadol. Mae pentre Llanilar yn gorwedd yn rhan isaf Cwm Ystwyth ac mae'r A485 yn llifo yma o Aberystwyth a Llwybr Beicio Ystwyth, sy'n mynd yn ei flaen i Dregaron drwy warchodfa natur enwog Cors Caron. Y cod post yw SY23 4SA.

Mae'r fynwent ar ffurf cylch caëdig sy'n awgrymu bod cell grefyddol (sef 'llan') yma yng nghyfnod yr Eglwys Geltaidd.

Ceir maen y tu allan i'r eglwys, bellach yn rhan o'r wal, lle dywedir i Harri Tudur farchogaeth ei geffyl, ar ei daith drwy ogledd a chanolbarth Cymru i fyny at Machynlleth, cyn troi i'r dwyrain tuag at Maes Bosworth. Mae'n eitha posib fod milwyr Harri wedi cysgu dros nos yn yr Eglwys, ac yntau ym mhlasty "Llidiardau", Dyffryn Ystwyth, tŷ sylweddol tua 1.4 km i'r dwyrain o Lanilar.

Ceir yn y cyntedd faen addurnedig, o'r enw Maen Maesmynach, a gariwyd o fryngaer Caer Maesmynach, Cribyn; credir ei bod yn rhan o groes ac yn dyddio o ddiwedd canrif 9 neu ddechrau canrif 10. Ar un cyfnod roedd yma ysgol, yn y fynwent. Cenir dwy gloch, yn rheolaidd, ac mae un ohonynt ymhlith yr hynaf yng Nghymru ac wedi'i dyddio i tua 1350; fe'i cludwyd yma o Rosygarth. Crair arall, hynod, yw'r fedyddfaen 7-ochr o ganrif 13 neu ganrif 14; ychydig iawn o fedyddfaeni tebyg sydd: ceir un yn Nhregaron ac un arall yng Ngwyr. Ar ochr ogleddol y gangell mae ffenest fain fechan o ganrif 14, a adwaenir yn lleol fel 'ffenest y gwahangleifion'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 9 Mai 2016.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: