Eglwys Rydd yr Alban (ar ôl 1900)

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Rydd yr Alban Poll Iù (Poolewe)

Y rhan o'r Eglwys Rydd wreiddiol nad ymunodd ag Eglwys Bresbyteraidd Unedig yr Alban ym 1900 yw Eglwys Rydd yr Alban (Gaeleg yr Alban: An Eaglais Shaor, Saesneg: Free Church of Scotland)[1]. Mae'n parhau'n enwad Presbyteraidd ar wahân yn yr Alban hyd heddiw.

Adladd undeb 1900[golygu | golygu cod]

Ym 1900, ymunodd Eglwys Rydd yr Alban ag Eglwys Bresbyteraidd Unedig yr Alban er mwyn ffurfio Eglwys Rydd Unedig yr Alban. Er hynny, roedd lleiafrif o'r Eglwys Rydd wreiddiol yn aros y tu allan i'r undeb newydd hwn.

Honnodd y lleiafrif gwrthdystiol ac anghydfurfiol yn syth mai ef oedd yr Eglwys Rydd gyfreithlon. Ymgynullasant y tu allan i'r Neuadd Gynull Rydd ar 31 Hydref ac, wedi methu â llwyddo i fynd i mewn, tynasant yn ôl a mynd i neuadd arall, lle yr etholwyd Colin A. Bannatyne fel eu cymedrolwr a chynaliasant eisteddiadau eu Cynulliadau a oedd ar ôl.

Adroddwyd mai rhwng 16,000 a 17,000 o enwau a dderbyniwyd gan bobl o blaid yr egwyddor wrthundebol hon. Yng Nghynulliad 1901, dywedwyd bod gan yr Eglwys Rydd 25 o weinidogion ac o leiaf 63 o eglwysi, a'r rhan fwyaf ohonynt yn rhanbarthau'r Alban Gaeleg eu hiaith.

Roedd y problemau cychwynnol yn amlwg: bu i'r eglwysi dyfu yn eu niferoedd ond roeddynt yn bell o'i gilydd yn ddaearyddol; nid oedd ganddynt ddigon o weinidogion; roedd yr Eglwys Rydd Unedig yn trin yr eglwys yn debyg i elyn; roedd rhaid gwneud y gwaith dan gryn galedi ac nid oedd ei neges yn apelio'n fawr at deimlad poblogaidd Albanwyr ar y pryd. Er hynny, cynyddodd cyllid yr Eglwys yn raddol: ym 1901, dim ond 75 o weinidogion y gallai eu cynnal, ond dwy flynedd yn ddiweddarach roedd y gronfa gynhaliaeth yn ddigon i 167.

Achos yr Eglwys Rydd[golygu | golygu cod]

Eglwys Rydd yn An Lòn Mòr (Lonmore). Yn hanesyddol, adwaenid yr adeilad fel "yr eglwys heb y tŵr".[2]

Wedi iddynt uno ym 1900, nid oedd yr Eglwys Bresbyteraidd Unedig a'r Eglwys Rydd barhaus yn herio cyfreithlondeb yr Eglwys Rydd o 1843–1900 yn unig, ond roeddynt yn hawlio'i hasedau hefyd. Ar ôl methu â dod i gytundeb, daeth y mater gerbron llysoedd yr Alban. Penderfynodd Tŷ'r Arglwyddi o blaid yr Eglwys Rydd i ddechrau ym 1904, ar y sail mai, yn niffyg y grym i newid athrawiaethau sylfaenol y ddogfen ymddiriedolaeth, lleiafrif anghydsyniol sydd yn cadw'r adeiladau. Am nad oedd yn bosibl i'r Eglwys Rydd ddefnyddio pob adeilad, ymyrrodd y Senedd, gan ddiogelu'r adeiladau y gallai'r Eglwys eu defnyddio'n effeithiol ar ei chyfer yn ogystal â chyfran sylweddol o'r asedau canolog.

Bywyd yr Eglwys[golygu | golygu cod]

Ailsefydlwyd Coleg yr Eglwys Rydd yng Nghaeredin ym 1906 ac erbyn 1925 roedd ganddi 91 o weinidogion a 170 eglwys mewn 12 henaduriaeth. Cychwynnodd dau athro o'r Coleg gyfnodolyn diwinyddol, yr Evangelical Quarterly, ym 1929, ond nid yw'r Eglwys yn gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn cyfredol erbyn hyn. Mae'r Coleg yn cynnig graddau ar y cyd â Phrifysgol Glasgow bellach hefyd. The Monthly Record yw cylchgrawn cyffredinol yr Eglwys ac mae cylchgronau i bobl ifanc hefyd.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, bu'r Eglwys Rydd yn fwy gweithgar yn yr achos efengylaidd ehangach, ond ar ôl twf y degawdau cynnar, aeth y niferoedd i lawr a oedd yn duedd gyffredinol heblaw am gyfnod byr yn y 1980au ac yna'n fwy diweddar. Yn 2010, roedd ganddi gynulleidfa o ryw 12,000, gan gynnwys 4,425 o gymunwyr, ac mae'r enwad presennol yn ymdrechu i ddod â'r Efengyl i gymdeithas fwyfwy seciwlar.

Mae'r Eglwys yn glynu wrth Gyffes Ffydd Westminster a Diwynyddiaeth Ddiwygiedig o hyd. Cyhoeddwyd sallwyr cyfan mewn Saesneg modern yn 2003. Mae'i swyddfeydd a'i goleg yn dal i sefyll ar The Mound, Caeredin, er nad yw'r enwad yn berchen ar adeiladau gwreiddiol Coleg yr Eglwys Rydd bellach.

Mae'r Eglwys Rydd yn parhau'n efengylaidd ei naws, drwy gyflwyno'i dealltwriaeth o'r neges Gristnogol, sef mai Iesu Grist yw'r unig Arglwydd a Gwaredwr. Mae wrthi'n edrych i sefydlu eglwysi newydd: eglwysi Dùn Phàrlain (Dunfermline) a Cill Rìmhinn (St Andrews) yw ei rhai diweddaraf. Mae nifer y ceisiadau i fod yn weinidogion wedi cynyddu yn ogystal â'r rhai sydd yn astudio ar ei gwrs Sadwrn yn y Coleg.

Aelod o Gynhadledd Ryngwladol Eglwysi Diwygiedig yw Eglwys Rydd yr Alban. Dros y blynyddoedd, mae wedi cynnal nifer helaeth o genhadon am eglwys o'i maint, ac mae gan ei chyn-genadaethau yn India, Periw a De Affrica statws hunanlywodraethol erbyn hyn. Mae ganddi berthynos agos ag Eglwys Bresbyteraidd Dwyrain Awstralia.

Digwyddiadau 2000[golygu | golygu cod]

Eglwys Rydd yn Colla (Coll)

Yn y 1980au a'r 1990au gwnaethpwyd cyhuddiadau o gamymddygiad rhywiol yn erbyn yr Athro Donald Macleod, pennaeth Coleg yr Eglwys Rydd. Ni phrofwyd bod yr Athro Macleod wedi camymddwyn ac fe'i rhoddwyd ar brawf a'i gael yn ddieuog ym 1996 yn y llysoedd sifil. Aeth carfan a oedd yn anghytuno â hyn ar ôl y cyhuddiadau yn erbyn Macleod yn llysoedd yr Eglwys, ond ni thyciai ddim.

Roedd sawl un yn eithaf anfodlon ar sut y trinnid y cyhuddiadau a bu sôn am guddio'r gwirionedd. Ailadroddodd y Parch. Maurice Roberts o Gymdeithas Amddiffyn yr Eglwys Rydd, a oedd yn anghytuno â Macleod, y cyhuddiadau'n gyhoeddus a lladd ar y Cynulliad Cyffredinol am ei "drygioni a['i] rhagrith dybryd ac anwelladwy". Diarddelwyd ef o'i waith am anufudd-dod ond mynnodd ei gefnogwyr y dylai gael ei adfer i'w swydd a gwrthodasant chwalu'r Gymdeithas Amddiffyn. Ym mis Ionawr 2000, diswyddwyd 22 o weinidogion a oedd yn cefnogi'r Gymdeithas a chyda sawl gweinidog arall, aethant ati i sefydlu Eglwys Rydd Barhaus yr Alban. Rhyw 20% o weinidogion a adawodd y Eglwys Rydd yn y pen draw.

Ar ôl y rhwyg, ceisiodd yr Eglwys Rydd Barhaus ddatganiad gan y Llys Sesiwn am berchnogaeth cyllid canolog ac adeiladau'r eglwys. Mewn penderfyniad pwysig, gwrthododd yr Arglwyddes Farnwr Paton eu hachos, ond ni chaniataodd absolvitor,[3] sef, ni rwystrwyd yr Eglwys Rydd Barhaus rhag dod â'r achos gerbron y Llys eto. Dywedodd yr Eglwys Barhaus y byddai'n apelio yn erbyn penderfyniad yr Arglwyddes Paton ond yn y pen draw, penderfynodd beidio. Fis Mawrth 2007, dygodd yr Eglwys Rydd achos er mwyn adennill mans yr eglwys yn An t-Àth Leathann (Broadford) ar An t-Eilean Sgitheanach (Skye). Dyfarnwyd yr Arglwydd Farnwr fod yr adeilad yn perthyn i'r Eglwys Rydd.[4] Bu rhaid i'r Eglwys Rydd Barhaus dalu treuliau'r Eglwys Rydd, felly apeliodd yr Eglwys Barhaus at Dŷ Mewnol y Llys Sesiwn, a gadarnhaodd dyfarniad yr Arglwydd Uist.[5]

Hanes diweddar[golygu | golygu cod]

Bellach, mae gan Eglwys Rydd yr Alban ryw 100 o eglwysi yn yr Alban a thua 80 o weinidogion. Yn y blynyddoedd diweddar, mae nifer y rhai sydd yn addoli yn yr Eglwys Rydd wedi cynyddu, o 12,431 yn 2007 i 12,639 yn 2013, sydd yn cynnwys cynnydd o 30% yn nifer y bobl o dan 30 oed a thwf o 25% yn niferoedd yr ysgolion Sul. Mae'r enwad yn tyfu y tu allan i Ynysoedd Allanol Heledd, yn enwedig yn y dinasoedd.[6][7]

Mae sawl cynulleidfa a gweinidog wedi ymuno â'r Eglwys Rydd yn ddiweddar, yn enwedig nifer o eglwysi a rhyw 10 o weinidogion o Eglwys yr Alban oherwydd ei hagwedd tuag at ordeinio dynion mewn perthynas hoyw.[8][9][10]

Cerddoriaeth yn yr Eglwys[golygu | golygu cod]

Ym mis Tachwedd 2010, cynhaliwyd cynulliad cyflawn er mwyn dadlau a phleidleisio ynghylch caniatáu canu emynau a defnyddio offerynnau cerddorol yng ngwasanaethau'r Eglwys Rydd. Derbyniwyd y cynnig o drwch blewyn[11] a mynnodd nifer o weinidogion gofnodi'u hanghytundeb â'r penderfyniad. Erbyn mis Medi 2011, roedd tri gweinidog (un a oedd wedi ymddeol) wedi ymddiswyddo yn sgil y penderfyniad.[12]

Addoliad[golygu | golygu cod]

Eglwys Rydd yn Cill Moluaig (Kilmaluag) ar An t-Eilean Sgitheanach (Skye)

Fel arfer, mae gwasanaethau'r Eglwys Rydd yn cychwyn am 11 y bore a 6:30 y nos ar y Sul. Mae trefn arferol gwasanaeth fel a ganlyn:

  • Canu (Salm neu emyn)
  • Gweddi
  • Canu
  • Darlleniad o'r Beibl
  • Canu
  • Pregeth
  • Gweddi
  • Canu
  • Bendith

Darllenir yr hysbysiadau cyn canu (felly, cyn dechrau'r gwasanaeth), yn syth ar ôl y darlleniad neu cyn y fendith.

Weithiau, bydd darlleniad cyntaf rhwng cyn y gân gyntaf a'r weddi, a fydd yn berthnasol i'r prif ddarlleniad wedyn.

Efallai y bydd neges i'r plant ar ôl y weddi gyntaf a gallai'r plant adael y gwasanaeth i fynychu ysgol Sul neu ddosbarth Beiblaidd ar ôl yr ail gân.

Bydd pregethwr lleyg yn dweud gweddi fer yn lle'r fendith.

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Mae dros 100 o eglwysi gan yr Eglwys Rydd drwy'r Alban yn ogystal â dwy yn Llundain, pump yng Ngogledd America a chenadaethau yn India, Periw a De Affrica.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sabhal Mòr Ostaig". Scots Gaelic translator. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-12. Cyrchwyd 2015-07-17.
  2. Sidwell, Mark. "The Presbyterians: History, Controversies, and Trends" (PDF). Detroit Baptist Theological Seminary. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-12-01. Cyrchwyd 7 October 2011.
  3. Opinion of Lady Paton. Adalwyd ar 16 Mehefin 2007
  4. "2009 CSOH 113".
  5. "Opinion of Lord Osborne".
  6. "www.freechurch.org/index.php/scotland/news_events_item/attendance_at_free_church_services_increase/". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-21. Cyrchwyd 2015-07-17.
  7. www.christiantoday.com/article/scottish.churches.remain.positive.despite.challenging.census.figures/34147.htm
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-01. Cyrchwyd 2015-07-17.
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-02. Cyrchwyd 2015-07-17.
  10. https://www.pressandjournal.co.uk/fp/news/highlands/470263/inverness-church-of-scotland-minister-quits/
  11. "Worship Statement (Updated) Free Church of Scotland Decides to Allow for the Singing of Hymns and the Use of Musical Instruments in its Congregations". November 20, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-24. Cyrchwyd 5 December 2010.
  12. "Free Church minister resigns over music in services". BBC News. 16 February 2011.
  13. "Free Church website (about us)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-12. Cyrchwyd 2015-07-17.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Dictionary of Scottish Church History and Theology, gol. N. Cameron et al. (Caeredin: T&T Clark, 1993)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]