Eglwys Rydd Barhaus yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys Rydd Barhaus Stafain (Staffin)

Enwad Bresbyteraidd Albanaidd yw Eglwys Rydd Barhaus yr Alban (Gaeleg: An Eaglais Shaor Leantainneach, Saesneg: Free Church of Scotland (Continuing)) a sefydlwyd ym mis Ionawr 2000. Mae'n honni bod yn wir barhad o Eglwys Rydd yr Alban, ac felly mae'n defnyddio'r gair parhaus yn ei henw.

Sefydliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1996, cafwyd yr Athro Donald Macleod, pennaeth Coleg yr Eglwys Rydd yng Nghaeredin, yn ddieuog o gyhuddiadau o ymosodiad rhyw pan ddyfarnodd siryf fod cynllwyn wedi bod yn ei erbyn.[1] Roedd cymdeithas o'r enw The Free Church Defence Association yn gweld bai "am beidio â dwyn yr Athro Macleod i brawf yn y Gymanfa Gyffredinol ac felly mae'r mwyafrif wedi cefnu ar yr egwyddor mai'r Gymanfa Gyffredinol gyfan a ddylai ymchwilio i honiadau o gamymddwyn, yn hytrach na Phwyllgor y Gymanfa Gyffredinol".[2] Diarddelwyd cadeirydd yr FCDA, y Parch. Morris Roberts, am anufudd-dod fis Mehefin 1999 am wrthod tynnu ei gyhuddiad yn ôl fod y Gymanfa Gyffredinol ym mis Mai y flwyddyn honno yn nodweddiadol am ei "drygioni a['i] rhagrith dybryd ac anwelladwy".[1]

Ym mis Awst 1999, cyfeiriodd cylchgrawn yr FCDA at "ddrygioni diarddel Mr Roberts".[1][3] Dywedwyd i'r FDCA am ymwahanu erbyn 30 Tachwedd 1999, ond ni wnaeth hyn.[4] Paratowyd cyhuddiadau yn erbyn 22 o weinidogion a wrthododd gydymffurfio, ac mewn gwrandawiad gan Gomisiwn y Gymanfa Gyffredinol ar 19-20 Ionawr 2000, cyhoeddwyd y cyhuddiadau hynny'n berthnasol.[5] Diarddelwyd y 22 weinidog ac ymatebon nhw drwy adael y comisiwn. Ar 20 Ionawr 2000, fe sefydlwyd Eglwys Rydd Barhaus yr Alban pan dderbyniwyd datganiad "Declaration of Reconstitution of the historic Free Church of Scotland".[6] Er bod y rhwyg oherwydd Donald Macleod ar yr wyneb, awgryma Johnston McKay mai ynglŷn â diwinyddiaeth yr oedd mewn gwirionedd, a bod yn yr FCDA yn cynnwys "pobl sydd yn glynu’n fwy cadarn wrth Gyffes Ffydd Westminster".[2]

Materion cyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ymadael â'r Eglwys Rydd, aeth yr Eglwys Rydd Barhaus o flaen y Llys Sesiwn, Goruchaf Lys Sifil yr Alban, i geisio perchnogaeth cronfa ganolog ac adeiladau'r Eglwys. Pan anfonwyd yr apêl i Dŷ Allanol y Llys Sesiwn, gwrthododd yr Arglwyddes Paton eu hachos, ond ni chaniataodd absolvitor,[5] sef, ni rwystrwyd yr Eglwys Rydd Barhaus rhag dod â'r achos gerbron y Llys eto. Ym mis Mawrth 2007, aeth Eglwys Rydd yr Alban i gyfraith yn An t-Àth Leathann (Broadford) ar An t-Eilean Sgitheanach (Skye) er mwyn adennill mans yr eglwys. Collodd yr Eglwys Rydd Barhaus yr achos yn y gwrandawiad cyntaf ar ddyfarniad yr Arglwydd Uist,[7] a hefyd eu hapêl i Dŷ Mewnol y Llys Sesiwn.[8]

Mynegodd yr Eglwys Rydd Barhaus ei bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn, ond yn 2009, nododd Cynhadledd Ryngwladol yr Eglwysi Diwygiedig i Eglwys Rydd Barhaus yr Alban "dynnu ei hapêl yn ôl ar fater sifil a oedd i ddod".[9]

Cydnabyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Aelod o International Conference of Reformed Churches[10] ac o Affinity yw'r enwad.[11]

Cynulledifaoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Eglwys Rydd Barhaus 33 o gynulleidfaoedd yn yr Alban, un yng Nghanada a chwech [12] yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn mae dwy orsaf bregethu yn yr Unol Daleithiau ac athrofa a fferm arddangos yn Zambia.[12][13] 2,000 o aelodau sydd gan yr Eglwys [14] er bod y nifer sy'n mynychu'r eglwysi'n uwch. Mae'r eglwysi mwyaf yn Inbhir Nis, Caeredin a Steòrnabhagh (Stornoway), lle mae'r gynulleifa fwyaf.

Athrofa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Eglwys Rydd Barhaus yr Alban yn cynnal athrofa ar gyrion Inbhir Nis (Inverness) ar gyfer hyfforddi ei gweinidogion.

Lluniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Templeton, Sarah-Kate (2 October 1999). "Free Church in crisis as two ministers face suspension". Sunday Herald. http://findarticles.com/p/articles/mi_qn4156/is_19991003/ai_n13944613/. Adalwyd 24 Ionawr 2011.
  2. 2.0 2.1 Johnston, McKay (21 Ionawr 2000). "A church born out of division". BBC News. http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/scotland/613198.stm. Adalwyd 24 Ionawr 2011.
  3. Notices, Free Church Foundations. Accessed 24 January 2011.
  4. McNeil, Robert (1 December 1999). "Rebels warn Free Church of their plan to break away". The Scotsman.
  5. 5.0 5.1 Opinion of Lady Paton. Adalwyd ar 16 Mehefin 2007
  6. Act XVIII, General Assembly Acts 2000-2008.
  7. 2009 CSOH 113
  8. Opinion of Lord Osborne
  9. "2009 Conference Minutes" (PDF). International Conference of Reformed Churches. Cyrchwyd 24 Ionawr 2011.
  10. "Press Release". International Conference of Reformed Churches. Cyrchwyd 24 January 2011.
  11. "Affinity Partners". Affinity. Cyrchwyd 24 January 2011.
  12. 12.0 12.1 http://www.freekirkcontinuing.co.uk/FCC/Overseas.html
  13. http://www.freekirkcontinuing.co.uk/FCC/Map.html
  14. http://www.reformiert-online.net/adressen/detail.php?lg=eng&id=96

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]