Sgwrs:Eglwys Rydd Barhaus yr Alban

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r Eglwys[golygu cod]

Ai Eglwys Rydd yr Alban (Barhaus) neu Eglwys Rydd (Barhaus) yr Alban? Fawr o help gan yr Aeleg, An Eaglais Shaor Leantainneach, sef "Yr Eglwys Rydd Barhaus". Llusiduonbach (sgwrs) 15:51, 30 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Hefyd, tra bod ni wrthi, beth am Gyffes (Ffydd) Westminster? Dyna sydd gan yr ychydig enghreifftiau ar y we, ond San Steffan yw Westminster yn Gymraeg. Llusiduonbach (sgwrs) 15:56, 30 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Haia. Ia, ansoddair ydy'r "parhaus" yn te? A dw i'n teimlo y dylai fod yn dilyn yr ansoddair arall, sef "Rhydd". Eglwys Rydd, Barhaus yr Alban. Mae hyn yn debyg, wedyn i'r Aeleg. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:03, 31 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Newidiwyd! Cytuno bod Eglwys Rydd Barhaus yr Alban yn swnio'n gallach. Llusiduonbach (sgwrs) 12:32, 31 Mai 2012 (UTC)[ateb]