Eglwys Ein Morwyn o'r Saith Gofid, Dolgellau

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Ein Morwyn o'r Saith Gofid, Dolgellau
Enghraifft o'r canlynoleglwys Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMedi 1966 Edit this on Wikidata
LleoliadDolgellau Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthDolgellau Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wrexhamdiocese.org.uk/diocesan_church_display.asp?churchid=27 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Eglwys Ein Morwyn Saith Gofid (en: Our Lady of the Seven Sorrows) yw enw eglwys Gatholig Rufeinig Dolgellau adeilad Gradd II[1] a adeiladwyd ym 1966. Mae wedi ei lleoli ar Heol Meurig yn agos at ganol y dref; mae'n rhan o Ddeoniaeth Dolgellau ac Esgobaeth Wrecsam o'r enwad.[2]

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Sylfaenydd yr eglwys oedd y Tad Francis Scalpell, offeiriad o Falta yn wreiddiol, a ordeiniwyd yn Rhufain ym 1921 a aeth i Lerpwl ym 1926 lle sylfaenodd plwyf St Anthony o Padua ym Mossley Hill. Ym 1938, aeth i Hwlffordd cyn symud i Ddolgellau flwyddyn yn ddiweddarach.[3]

Gan nad oedd addoldy ar gyfer Catholigion cylch Dolgellau, pan symudodd Scalpell i'r dref arferai gynnal yr offeren mewn hen stabl; bu gwirfoddolwyr yn gyfrifol am drwsio'r stabl a'i ehangu trwy ei gysylltu â hen siop pysgod a sglodion; yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu carcharorion rhyfel o'r Eidal yn helpu i wella adnoddau'r addoldy[4].

Sefydliad[golygu | golygu cod]

Cynyddodd niferoedd poblogaeth Gatholig y cyffiniau yn sylweddol yn ystod y 1950au, a theimlai'r Tad Scalpell bod angen eglwys newydd, mwy o faint yn Nolgellau. Ysgrifennodd dros 25,000 o lythyrau i bobl ledled y byd yn gofyn am roddion ar gyfer eglwys newydd. Yn ôl cofnodion y plwyf o'r 1960au cynnar bu i ddieithryn aros ar ôl wedi'r offeren un Sul gan ofyn i'r Tad Scalpell faint mwy o arian oedd ei angen ar gyfer yr eglwys newydd; wedi clywed y swm dywedodd wrth yr offeiriaid y byddai'n fodlon cyfrannu'r swm oedd ei angen. Deuddydd yn ddiweddarach derbyniodd Scalpell lythyr gan gwmni o gyfreithiwr yn ei hysbysu byddai cymwynaswr yn rhoi'r arian angenrheidiol os oedd y cyfrannwr yn cael aros yn ddienw a bod yr adeilad newydd yn un hardd ac yn weddi i'w amgylchedd mynyddig llwm.

Adeiladu[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1963 gan bara am bedair blynedd. Cyfanswm y gost oedd £68,000. Roedd y pensaer, Maurice Pritchard, a'r cwmni adeiladu, John Evans a'i Feibion, oll o'r ardal leol. Cafodd yr eglwys ei hadeiladu mewn pensaernïaeth o arddull Normanaidd gyda chroes uwchben y brif fynedfa a gynlluniwyd gan Benigno Morlin Visconti Castiglione, cerflunydd o Milan, sydd â gwaith yn cael ei harddangos yn Eglwys Gadeiriol Milan a Basilica San Pedr yn Rhufain.

Cafodd yr eglwys ei hagor ym mis Medi 1966 a chafodd ei chysegru ar 15 Mai 1967 gan Esgob Minerfa yr Hybarch John Edward Petit.

Nodyn am yr enw[golygu | golygu cod]

Does dim enw Cymraeg swyddogol ar yr eglwys. Daw'r enw Saesneg o emyn Ladin o'r 13g sy'n cychwyn efo'r geiriau Stabat mater dolorosa[5] sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel Mae'r fam yn galaru. Dolorosa yw gwreiddyn y gair Cymraeg dolur, gellir cyfieithu dolorosa (a gan hynny'r sorrows Saesneg) i'r Gymraeg fel gofid, dolur, galar, loes neu archoll[6][7].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]