Sgwrs:Eglwys Ein Morwyn o'r Saith Gofid, Dolgellau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Nodyn am yr enw[golygu cod]

Does dim enw Cymraeg swyddogol ar yr eglwys ysywaeth. Daw'r enw Saesneg o emyn Ladin o'r 13eg ganrif sy'n cychwyn efo'r geiriau Stabat mater dolorosa[1] sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel Mae'r fam yn galaru. Dolorosa yw gwreiddyn y gair Cymraeg dolur, gellir cyfieithu dolorosa i'r Gymraeg fel gofid, dolur, loes neu archoll[2][3]. Siawns bod angen cyngor gan yr Eglwys Gatholig yng Nghymru am eu barn hwy parthed y cyfieithiad mwyaf derbyniol o enw i'r adeilad. AlwynapHuw (sgwrs) 03:30, 11 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000: Dim yn sicr os dylwn gynnwys y paragraff hwn yn y brif destun. Cyngor?? AlwynapHuw (sgwrs) 03:42, 11 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Andros o ddiddorol! Mae'r uchod yn esbonio'r enw a does dim o'i le ar hyn - mae'n ychwanegiad pwysig at gweddill y wybodaeth. Barn bersonol ydy 'ysywaeth', fodd bynnag, a rhaid gochel rhag hynny, a pharhau i fod yn wrthrychol, niwtral gan hepgor y frawddeg 'Siawns bod angen ...!' A diolch hefyd am yr arweiniad parthed 'Cader Idris'! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:31, 11 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Daw'r canlynol o eiriadur yr Academi (chwilier am "Lady")
2. Ecc: Our L[ady], y Forwyn Fair, Mair Wyry, Occ: Ein Harglwyddes; (in names of plants Etc): Mair.
Byddai naill ai "Eglwys Ein Harglwyddes o'r Saith Gofid" neu "Eglwys y Forwyn o'r Saith Gofid" yn well gen i, ond nid "Ein Morwyn". Ham II (sgwrs) 17:25, 13 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau[golygu cod]