Edwin Powell Hubble
Edwin Powell Hubble | |
---|---|
Ganwyd | 20 Tachwedd 1889 ![]() Marshfield, Missouri ![]() |
Bu farw | 28 Medi 1953 ![]() San Marino ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Peirianneg ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seryddwr, astroffisegydd, cosmolegydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Hubble–Lemaître law, Hubble sequence ![]() |
Priod | Grace Lillian Burke ![]() |
Gwobr/au | Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Medal Bruce, Medal Franklin, Ysgoloriaethau Rhodes, Indiana Basketball Hall of Fame, Barnard Medal for Meritorious Service to Science, Gwobr Newcomb Cleveland, Silliman Memorial Lectures ![]() |
Tîm/au | Chicago Maroons baseball, Chicago Maroons men's basketball ![]() |
llofnod | |
![]() |
Roedd Edwin Powell Hubble (20 Tachwedd 1889 – 28 Medi 1953) yn seryddwr o'r Unol Daleithiau.
Defnyddiodd Edwin Hubble delesgop 100 modfedd Arsyllfa Mount Wilson i brofi bodolaeth galaethau eraill yn y bydysawd sy'n symud i ffwrdd oddi wrthym ni, ac felly cadarnhaodd y ddamcaniaeth fod y bydysawd yn ymledu yn hytrach nag aros yn ddigyfnewid.
Darganfu hefyd fod y cyflymder y mae'r galaethau hynny yn symud i ffwrdd yn dibynnu ar eu pellter o'r ddaear, sylw a arweiniodd at allu gwerthysu Cysonyn Hubble.
Teulu[golygu | golygu cod]
Enw ei daid oedd Martin Jones Hubble (g. 1835 yn Boone, Missouri - m. Chwefror 1920 yn St Louis County, Missouri) a'i nain oedd Mary Jane Powell; oddi wrthi hi y derbyniodd yr enw canol "Powell". Cawsant fab, sef John, tad Edwin (1860 - 1912) a ddaeth naill ai'n gyfreithiwr neu'n ymwneud ag yswiriant.[1][2] Ei fam oedd Virginia Lee (James) (c.1864 - 1934).
Cychwyn y daith[golygu | golygu cod]
Pan oedd yn ddeg oed cafodd y llyfr gwyddonias 50,000 Leagues Under the Sea gryn argraff arno. Mynychodd y brifysgol yn Chicago ac roedd yn focsiwr eitha da ac yn gapten y tîm pêl-fasged. Ym 1910 aeth i Coleg y Frenhines, Rhydychen. Wedi cyfnod byr yn y rhyfel cafodd swydd yn Arsyllfa Mount Wilson yn Califfornia.
Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ My Heritage; adalwyd 22 Mehefin 2014
- ↑ encyclopedia.com; adalwyd 22 Mehefin 2014