Edward Jones Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Jones Williams
Ganwyd 1857 Edit this on Wikidata
Bu farw 1932 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth peiriannydd Edit this on Wikidata
Tŷ Edward Jones Williams yn Nhrelew, tua 1904.

Peiriannydd oedd Edward Jones Williams (19 Gorffennaf 18573 Gorffennaf 1932).

Ganed Edward Jones Williams yn Durham, yn fab i rieni Cymraeg o Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, ond gan na allai ei dad fforddio addysg brifysgol iddo, ymrwymodd ei dad ef i brentisiaeth gyda Joseph J. Williams, prif beiriannydd mwyngloddio'r ardal, am dair blynedd i dderbyn hyfforddiant fel peiriannydd mwyngloddio a thirfesurydd. Ar ôl blwyddyn o brentisiaeth, ysgrifennodd draethawd yn dwyn y teitl 'The Mineral Resources of Denbighshire and Flintshire' a gyhoeddwyd yn Journal of the Geological Society yn Llundain. Yn ystod trydedd flwyddyn ei brentisiaeth, enillodd fedal ac £20 yn Eisteddfod Genedlaethol 1878 am lawlyfr Cymraeg ar Ddaeareg.

Er gwaethaf ei brofiad ym maes Daeareg, Peirianwaith Mwyngloddio a Thirfesureg, ni lwyddodd i gael swydd ac ar ddiwedd 1880 felly, ymunodd gyda'i rieni a gweddill y teulu ar y daith i Batagonia. Arhosodd Edward yn Buenos Aires i ymgyfarwyddo â sefydliadau peirianyddol proffesiynol yr Ariannin a meistroli termau'r proffesiwn yn Sbaeneg. Tra'r oedd yno, gwnaeth gysylltiadau gwerthfawr yn y byd masnachol a llywodraethol.

Yn y Wladfa, manteisiodd ar y profiad a gafodd fel prentis gan fynd ati i greu rhwydwaith o ffosydd a mesur y tir ac yn 1884 aeth i chwilio am le i osod trac rheilffordd arfaethedig. Mae ei lyfr nodiadau yn adlewyrchu manylder ei gynlluniau.

Yn 1890, dychwelodd i Gymru i briodi Mary Elizabeth Price ar 9 Rhagfyr a ganed 6 o blant iddynt.

Mewn teyrnged iddo gan Y Parch R J Jones, Prestatyn, dywedodd ei fod yn un o genhedlaeth o ymfudwyr a ddylanwadodd ar fywyd y Wladfa o ran masnach a chrefydd. Gydag eraill dechreuodd Arddangosfa Amaethyddol a arweiniodd at ddatblygu a gwella amaethyddiaeth a garddwriaeth. Roedd yn gefnogwr brwd o eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol; gweithiodd yn ddiflino i hybu cariad at lenyddiaeth Gymraeg ymysg yr ifanc ac i feithrin yr iaith. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Fasnachol y Camwy ac roedd yn athro Ysgol Sul yng Nghapel Tabernacl Trelew.

Gadawodd y teulu'r Wladfa ym mis Gorffennaf 1907 a dychwelyd i Gymru ond ym mis Ebrill 1908 teithiodd Edward yn ôl i'r Wladfa am flwyddyn yn unig i greu estyniad i'r rheilffordd i'r Gaiman. Aeth â'i ddau fab, Iorwerth a William Penri, gydag ef. Parhaodd i weithio ar gynlluniau i ymestyn y rheilffordd a chreu cynlluniau i adeiladu melin ddŵr.

Ar ôl dychwelyd i Gymru bu'r teulu'n byw yn Grange Mount, Y Rhyl, cyn symud i Bendyffryn ym mis Mawrth 1914 ac yno y bu Edward Jones Williams farw ar 3 Gorffennaf 1932.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]