Edward Evan
Gwedd
Edward Evan | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1716, 1716 Llwydcoed |
Bu farw | 21 Mehefin 1798, 1798 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Bardd Cymraeg oedd Edward Evan (Mawrth 1716 – 21 Mehefin 1798).
Roedd yn frodor o blwyf Aberdâr, Morgannwg (Rhondda Cynon Taf heddiw), lle y'i ganed yn 1716. Gweithiodd fel prentis saer yn ei ieuenctid ond yn ddiweddarach prynodd fferm a daeth yn weinidog Presbyteraidd. Bu farw yn 1798.[1]
Fe'i cofir am ei unig gyfrol o gerddi, Caniadau Moesol a Duwiau, a gyhoeddwyd yn 1804 chwe mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Roedd yn gyfrol boblogaidd iawn a ailargraffwyd dair gwaith dan y teitl Afalau'r Awen.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]