Edward Abbey
| Edward Abbey | |
|---|---|
| Ganwyd | Edward Paul Abbey 29 Ionawr 1927 Indiana |
| Bu farw | 14 Mawrth 1989 Tucson |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, athronydd, awdur ysgrifau, sgriptiwr, amgylcheddwr, ymgyrchydd, naturiaethydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The Monkey Wrench Gang, Desert Solitaire |
| Arddull | Llenyddiaeth natur, traethawd |
| Prif ddylanwad | Aldo Leopold, Henry David Thoreau, Gary Snyder, Pyotr Kropotkin, A. B. Guthrie Jr. |
| Mudiad | amgylcheddaeth, green anarchism |
| Priod | Rita Deanin Abbey |
| Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Llenor ac ecolegwr o'r Unol Daleithiau oedd Edward Abbey (29 Ionawr 1927 – 14 Mawrth 1989) sydd yn nodedig am ei nofelau a leolir yn Ne Orllewin yr Unol Daleithiau ac am ei ysgrifau sydd yn mynegi athroniaeth amgylcheddol radicalaidd ac anarchaidd. Fe'i gelwir weithiau yn "Thoreau y De Orllewin".
Ganed ym mwrdeistref Indiana, Pennsylvania, a chafodd ei fagu mewn pentref cyfagos o'r enw Home. Ffermwr oedd ei dad, Paul Revere Abbey. Gadawodd Edward Abbey ei gartref yn Home yn 17 oed er mwyn bodio'i ffordd a theithio ar y wagen ar draws yr Unol Daleithiau, tua'r gorllewin i ddiffeithwch y Pedair Cornel (taleithiau Utah, Colorado, Arizona, a New Mexico). Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol New Mexico ym 1951, a'i radd meistr o'r brifysgol honno ym 1956 ar bwnc "Anarchiaeth a Moesoldeb Trais". Gweithiodd yn goedwigwr ac yn wyliwr tân i'r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yn y 1950au a'r 1960au. Wrth ei waith, magai berthynas fynwesol â thirwedd a bywyd gwyllt rhanbarth y De Orllewin.
Ei dair nofel gyntaf oedd Jonathan Troy (1954), The Brave Cowboy (1956), a Fire on the Mountain (1962). Daeth yn amlwg yn sgil cyhoeddi Desert Solitaire: A Season in the Wilderness (1968), ei atgofion fel ceidwad parc yng nghefn gwlad Utah, a ystyrir yn glasur o lenyddiaeth natur.
Mae ei nofel enwocaf, The Monkey Wrench Gang (1975), yn ymwneud â phedwar amgylcheddwr sydd yn ceisio dinistrio Argae Ceunant Glen, yng ngogledd Arizona, gyda bom. Disgrifiodd Abbey y llyfr hwn yn stori ddychanol, ond cafodd ei feirniadu am ddisgrifio'n fanwl sut i ddifrodi eiddo yn fwriadol. O ganlyniad i The Monkey Wrench Gang, condemniwyd Abbey yn derfysgwr ac yn anarchydd peryglus gan gadwraethwyr sefydledig ac yn feddyliwr ysbrydoledig gan ecolegwyr y gwrthddiwylliant. Sefydlwyd y mudiad radicalaidd Earth First! ym 1980 gan griw o ymgyrchwyr ifanc a oedd yn edmygu gwaith Abbey, a'r nofel hon yn enwedig. Rhoddwyd yr enw monkey-wrenching ar dacteg o ddefnyddio difrod bwriadol er mwyn amddiffyn yr amgylchedd.
Bu farw Edward Abbey yn Tucson, Arizona, o glefyd cylchredol yn 62 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-19 yn y Peiriant Wayback", The New York Times (15 Mawrth 1989). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 16 Mehefin 2021.
- Genedigaethau 1927
- Marwolaethau 1989
- Amgylcheddwyr o'r Unol Daleithiau
- Ecolegwyr
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Pennsylvania
- Pobl fu farw yn Arizona
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau