Edith Searle Grossmann

Oddi ar Wicipedia
Edith Searle Grossmann
GanwydEdith Howitt Searle Edit this on Wikidata
8 Medi 1863 Edit this on Wikidata
Beechworth Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1931 Edit this on Wikidata
Auckland Edit this on Wikidata
Man preswylSeland Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Seland Newydd Seland Newydd
Alma mater
  • Prifysgol Seland Newydd
  • Prifysgol Canterbury, Seland Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, athro, ymgyrchydd, swffragét Edit this on Wikidata
PriodJoseph Penfound Grossmann Edit this on Wikidata

Ffeminist o Seland Newydd oedd Edith Searle Grossmann (8 Medi 1863 - 27 Chwefror 1931) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, nofelydd, athro, ymgyrchydd a swffragét.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Seland Newydd, Prifysgol Canterbury, Seland Newydd.

Ganwyd Grossmann yn Beechworth, Victoria (Awstralia) yng ngogledd-ddwyrain Awstralia ar 8 Medi 1863, i Mary Ann Beeby a George Smales Searle.[1] Hi oedd y pedwerydd o'u pum plentyn. Roedd rhieni Grossmann yn ffrindiau i rieni Alfred William Howitt, fforiwr a achubodd unig oroeswr alldaith anffodus Robert O'Hara Burke ym 1861. Wrth i Grossmann gael ei geni bron yn union ddwy flynedd ar ôl hyn, fe roesant "Howitt" yn enw canol i'w merch.[2]

Masnachwr gwin yn Awstralia oedd ei thad yn wreiddiol, cyn dod yn olygydd papur newydd. Symudodd y teulu i Melbourne ac yna, ym 1878, i Invercargill, lle daeth Searle yn olygydd papur newydd The Southland Times.[2][3]

Coleg[golygu | golygu cod]

Astudiodd Grossmann yng Ngholeg Canterbury rhwng 1880 a 1885, ac yn ystod yr amser hwnnw derbyniodd nifer o wobrau ac anrhydeddau, ac roedd hefyd yn fyfyriwr gweithgar a chymdeithasol. Roedd hi wedi derbyn ysgoloriaeth iau i fynd i'r Coleg, ac ym 1882 derbyniodd ysgoloriaeth hŷn hefyd. Yn 1881, enillodd yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Traethawd Bowen, ac ym 1882, y wobr gyntaf. Roedd Grossmann hefyd yn aelod o gymdeithas ddadlau'r brifysgol a chymerodd ran mewn dadleuon ar faterion cyfoes fel Mesur Eiddo Merched Priod 1884, ac addysg uwch menywod.[1] Pan gwblhaodd Grossmann ei hastudiaethau, roedd ganddi ddau radd B.A. ac M.A. gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Lladin a Saesneg, ac anrhydeddau trydydd dosbarth mewn gwyddoniaeth wleidyddol.[4]

Yr awdur[golygu | golygu cod]

Roedd ei gwaith ffeithiol yn amrywio o draethodau ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth i erthyglau ar fudiad y menywod, a darnau o feirniadaeth lenyddol, ac ymddangosodd mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys yr Empire Review a'r Westminster Review.[3] Ysgrifennodd hefyd ffuglen, gan gynnwys barddoniaeth, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Zealandia, a straeon byrion, a gyhoeddwyd yn yr Otago Daily Times.[5]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Taonga, New Zealand Ministry for Culture and Heritage Te Manatu. "Grossmann, Edith Searle". www.teara.govt.nz (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 Burns, Rebecca (11 Mehefin 2012). "Snapshot of a Life Reassessed: Edith Searle Grossmann". Kōtare : New Zealand Notes & Queries 0 (0). ISSN 1174-6955. http://ojs.victoria.ac.nz/kotare/article/view/786.
  3. 3.0 3.1 Moffat, Kirstine (8 Mehefin 2012). "Edith Searle Grossmann, 1863–1931". Kōtare : New Zealand Notes & Queries 7 (1). ISSN 1174-6955. http://ojs.victoria.ac.nz/kotare/article/view/772.
  4. "Edith Howitt Searle Grossmann (1863–1931)". my.christchurchcitylibraries.com. Cyrchwyd 6 Chwefror 2016.
  5. Burns, Rebecca (11 Mehefin 2012). "Rediscovered: Two Short Stories by Edith Searle Grossmann". Kōtare : New Zealand Notes & Queries 0 (0). ISSN 1174-6955. http://ojs.victoria.ac.nz/kotare/article/view/790.