Edeulys blewddail
Edeulys blewddail Blepharostoma trichophyllum | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Pseudolepicoleaceae |
Genws: | Blepharostoma |
Rhywogaeth: | B. trichophyllum |
Enw deuenwol | |
Blepharostoma trichophyllum |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys blewddail (enw gwyddonol: Blepharostoma trichophyllum; enw Saesneg: hairy threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd Lloegr, yr Alban ac arfordir Iwerddon.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r Edeulys blewddail yn wyrdd golau, llachar gyda choesynnau main main, sy'n llai na 0.5 mm mewn diametr, gyda tri neu bedwar o ddail.
Ychydig iawn o lysiau'r afu Prydeinig sydd mor fain â'r Edeulys blewddail (B. trichophyllum), ac nid oes gan yr un arall y math cordeddog yma o goesynnau a bysedd main sy'n lledaenu ar yr wyneb. Mae'r dail yma, sy'n lledaenu, yn rhoi ymddangosiad blewog iddo; dim ond yn y Gwlanlys hardd (Trichocolea tomentella) y ceir hyn, ond mae hwnnw'n blanhigyn llawer mwy.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.