E Olwen Jones

Oddi ar Wicipedia
E Olwen Jones
GanwydLerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata

Cerddor, athrawes ac awdur yw E Olwen Jones.[1]

Yn enedigol o Lerpwl, mae'n byw ym mhentref Talwrn, Ynys Môn, ers sawl blwyddyn bellach. Cyhoeddodd nifer fawr o lyfrau o ganeuon i blant a phobl ifanc ac mae ei threfniannau o ganeuon gwerin yn boblogaidd gan gorau o bob math ar hyd a lled Cymru. Bu'n athrawes mewn ysgolion yn Essex, Bangor a Môn cyn cael ei hapwyntio yn Bennaeth Adran Cerddoriaeth y Coleg Normal ym Mangor. A hithau wedi ymddeol, mae'n treulio llawer o'i hamser yn cyfansoddi ac yn trefnu cerddoriaeth a chyhoeddodd lyfr yn ddiweddar ar ganeuon y caethweision, 'Caneuon y Caethwas'.

Cyhoeddwyd y gyfrol Hiraeth am y Seren gan wasg Cyhoeddiadau Sain yn 2016.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 1910594393". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur E Olwen Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.