Neidio i'r cynnwys

Durotriges

Oddi ar Wicipedia
Llwythau Celtaidd De Lloegr

Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin Lloegr oedd y Durotriges. Roedd eu tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Eu prif ddinasoedd oedd Durnovaria (Dorchester heddiw) a Lindinis (Ilchester heddiw).

Ymddengys eu bod yn cynghrair o lwythau llai yn hytrach na llwyth unedig. Roeddynt yn bathu arian, ond nid oedd ysgrifen ar y darnau arian, felly nid oes modd darganfod enwau rheolwyr. Eu safle enwocaf yw bryngaer Maiden Castle.

Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid yn 43 OC, a bu'r lleng Legio II Augusta, dan eu legad Vespasian a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarch, yn ymgyrchu yn eu tiriogaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.