Neidio i'r cynnwys

Dugaeth Schleswig

Oddi ar Wicipedia
Dugaeth Schleswig
Enghraifft o'r canlynolardal hanesyddol, dugiaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1866 Edit this on Wikidata
Label brodorolHerzogtum Schleswig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1058 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Map
OlynyddProvince of Schleswig-Holstein Edit this on Wikidata
Enw brodorolHerzogtum Schleswig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dugaeth rhwng afon Eider yn y de ac afonig Kongeå yn y gogledd ar benrhyn Jylland (Jutland), oedd Dugiaeth Schleswig (Daneg: Hertugdømmet Slesvig; Dugiaeth Hertugdømmet Sønderjylland (Dugaeth De Jylland) yn wreiddiol; Almaeneg: Herzogtum Schleswig). Roedd hi'n cwmpasu ardal rhwng tua 60 km (35 milltir) i'r gogledd a 70 km (45 mi) i'r de o'r ffin bresennol rhwng yr Almaen a Denmarc. Mae'r diriogaeth wedi'i rhannu rhwng y ddwy wlad ers 1920, gyda Gogledd Schleswig yn Nenmarc a De Schleswig yn yr Almaen.

Yn wahanol i Holstein a Lauenburg, nid oedd Schleswig erioed yn rhan o Gydffederasiwn yr Almaen. Yn hytrach, roedd Schleswig dan wrogaeth Denmarc, ac roedd ei thrigolion yn siarad Daneg, Almaeneg, a Gogledd Ffriseg. Roedd Rhyddfrydwyr Cenedlaethol Denmarc a'r Almaen ill dau eisiau i Schleswig fod yn rhan o wladwriaeth genedlaethol Danaidd neu Almaenig yn y 19eg ganrif. Gwrthryfel Almaenig ym mis Mawrth 1848 achosodd Rhyfel Cyntaf Schleswig a ddaeth i ben yn 1852. Wedi Ail Ryfel Schleswig (1864), roedd y tair Dugiaeth yn cael eu llywodraethu ar y cyd gan Awstria a Phrwsia. Yn 1866, daethant yn rhan o Prwsia.

Y Knud (arglwydd) Lavard (1096 –1131) oedd y cyntaf i dderbyn y teitl Hertug (Dug), teitl Ewropeaidd ar uchelwyr a oedd hefyd wedi lledaenu i'r gwledydd Nordig. Ar ôl 1386 daeth yn fwy cyffredin i'r Daniaid enwi'r lle fel Slesvig (o'r Almaeneg Schleswig) yn hytrach na De Jutland Denmarc. Buodd ymgypris rhwng Daniaid ac Almaenwyr ar y diriogaeth hon ers canrifoedd.

Mae'r ardal ddeheuol bellach yn rhan o Schleswig-Holstein, un o daleithiau'r Almaen.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dugaeth De Jylland (Hertugdømmet Sønderjylland)

O ddiwedd yr 11g, roedd De Jylland yn cael ei lywodraethu ac nid yn lleiaf ei amddiffyn gan ei iarll ffin ei hun. Pan oedd y Brenin Nils o Ddenmarc, oherwydd brad iarll yr ardal, Elilf, wedi dioddef colled fawr yn erbyn y Tywysog Henrik o'r Wendiaid (llwythi Slafeg) yn yr hyn sydd nawr yn ogledd ddwyrain yr Almaen), ym 1115 gosododd y brenin ei nai ifanc Knut Lavard yn iarll y ffin.[1] Roedd yn llwyddiant. Gyrrwyd y Wendiaid allan a ffynnodd De Jutland.

Fel y Daniad cyntaf, creodd Knut Lavard teitl "dug" ffiwdal Ewropeaidd. Roedd wedi tyfu i fyny gyda Lothar III o Sacsoni a chael ei ddylanwadu gan yr Almaenwr. O Lothar, derbyniodd deyrnas Holstein Henrik fel ffiff, a wnaeth y sefyllfa'n ddryslyd pan ddaeth gwarchodwr ffin Denmarc i'r de hefyd yn allbost yr Almaen i'r gogledd.

Knud Lavard, Dug cyntaf Schleswig

Ar ôl i Knud Lavard gael ei lofruddio yn 1131 gan ei gefnder, mab y Brenin Nils, Magnus Gref, a oedd yn ei weld fel cystadleuydd peryglus dros yr orsedd, rhoddwyd esgus i Lothar ymyrryd â materion Denmarc. Am 50 mlynedd, daeth Denmarc o dan hegemoni'r Almaen. Serch hynny, parhaodd yr arfer o roi Schleswig yn ddugiaeth i aelod iau o'r tŷ brenhinol. Gyda phenodiad Abel o Denmarc ym 1232, dechreuodd dylanwad yr Almaenwyr yn Ne Jutland o ddifrif. Priododd Abel â theulu deucal Holstein yn Schauenburg a chefnogodd ei frodyr-yng-nghyfraith Almaenig yn y frwydr yn erbyn ei frawd Erik Plogpenning. Ar ôl i'r Brenin Erik gael ei ladd, daeth Abel ei hun yn frenin Denmarc, a'i deyrnasiad ef oedd y byrraf o holl frenhinoedd Denmarc. Cafodd ei ladd ar ôl ceisio casglu trethi gan y Ffrisiaid yng ngorllewin Schleswig. Gorfodwyd yr Holsteinwyr, yn erbyn ewyllys brenin Denmarc, y dylai mab hynaf Abel, Valdemar III o Schleswig, etifeddu'r ddugiaeth. Yna fe'i hystyriwyd yn etifeddol i'r teulu Abel.

Daeth y teulu Abel yn fygythiad cyson i orsedd Denmarc, yn rhannol oherwydd eu bod nhw eu hunain yn ystyried eu hunain â hawl i'r orsedd trwy atal mab Abel rhag cael ei ethol, ac yn rhannol oherwydd bod y teulu'n cydweithio â'r Almaenwyr Schauburgers yn erbyn y goron. Daeth uchelwyr cyfoethog Holstein i feddiant mwy a mwy o dir ac eiddo yn Ne Jutland, a daeth yn urdd marchog Schleswig-Holstein, grŵp pŵer milwrol ac economaidd ar y ddwy ochr i ffin genedlaethol Denmarc.

O dan Valdemar Sejer, trefnwyd cysylltiadau cyfreithiol a daeth De Jutland o dan Gyfraith Jutland. Ar ôl 1386, daeth yr enw "Slesvig" yn fwy a mwy cyffredin, [cyfeiriad sydd a enwyd ar ôl prif ddinas Slesvig.

Daeth y cysylltiad rhwng Teyrnas Denmarc a Dugiaeth Schleswig yn berthynas sirol ac yn undeb personol, ond ar yr un pryd Eider oedd ffin ddeheuol hanesyddol Denmarc.

Er 1900[golygu | golygu cod]

Schleswig/Slesvig gyda ffiniau gweinyddol heddiw a peuoedd iaith

Roedd Cytundeb Versailles yn darparu ar gyfer plebiscitiaid i bennu teyrngarwch y rhanbarth.[2] Felly, cynhaliwyd dau refferendwm yn 1920, gan arwain at raniad y rhanbarth. Pleidleisiodd Gogledd Schleswig o fwyafrif o 75% i ymuno â Denmarc, tra pleidleisiodd Canol Schleswig o fwyafrif o 80% i aros yn rhan o’r Almaen. Yn Ne Schleswig, ni chynhaliwyd refferendwm, gan fod y canlyniad tebygol yn amlwg. Mae'r enw 'De Schleswig' bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl Schleswig Almaeneg. Gadawodd y penderfyniad hwn leiafrifoedd sylweddol ar ddwy ochr y ffin newydd.

Ar ôl pennu'r ffin ym 1920, defnyddir y term Sønderjylland (neu'r Sønderjyske Landsdele yn swyddogol) am y rhan Ddanaidd, ond mewn egwyddor yr un ardal yw Sønderjylland a Slesvig, ac eithrio ynysoedd Ærø a Femern, a gynhwyswyd hefyd yn Slesvig. Gelwir y rhan Daneg hefyd yn Nordslesvig, De Schleswig yr Almaen. Heddiw, mae lleiafrifoedd cenedlaethol yn byw ar ddwy ochr y ffin, ac yn y de-orllewin hefyd Ffrisiaid.

Newid iaith[golygu | golygu cod]

Mae ymchwil i enwau lleoedd wedi profi bod Daniaid yn byw yn yr ardal i'r gogledd o Trenen, Slien ac yn Svans yn wreiddiol, tra bod yr ardal tua 'r Môr Tawch yn Ffriseg a Stapelholm a'r ardaloedd cyfagos ar hyd yr Ejderen yn Sacsonaidd. Dylanwad ar y deheubarth gan yr Almaeneg trwy'r rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol hwyr ac yn enwedig ar ôl y Diwygiad Protestannaidd, pan ddaeth Almaeneg yn iaith eglwysig yn Ne Schleswig, gan ddisodli Daneg yn raddol fel y brif iaith o blaid Isel Almaeneg. Darllenodd yr ardal Gyfraith Jutland (yn gyntaf yn Daneg, yn ddiweddarach yn Isel Almaeneg) hyd at gyflwyno'r Preussische Landesgesetz ym 1866. Mae ychydig o reolau yng Nghyfraith Jutland yn dal i fod yn berthnasol. Yn ystod Ail Ryfel Schleswig, yn Ym 1867 unwyd Schleswig (Schleswig) â Holstein fel talaith Prwsia Schleswig-Holstein. Ym 1920, aduno hanner gogleddol Schleswig â Denmarc ar ôl y refferendwm ar Schleswig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Danmarkshistoriens hvornår skete det, Copenhagen: Politiken, 1966, p. 65 Nodyn:In lang
  2. Nodyn:Cite Collier's

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.