Dorothy Squires

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dorothy Squires
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Edna May Squires
Ganwyd 25 Mawrth 1915(1915-03-25)
Man geni Baner Cymru Pontyberem, Sir Gaerfyrddin
Marw 14 Ebrill 1998(1998-04-14) (83 oed)
Man marw Llwynypia, Rhondda Cynon Taf
Cerddoriaeth Cerddoriaeth bop traddodiadol
Galwedigaeth(au) Cantores,
Offeryn(au) cerdd Llais
Blynyddoedd 1936 - 1990
Label(i) recordio Polygon Records, Columbia Records
Gwefan dorothysquires.co.uk

Cantores Gymreig oedd Dorothy Squires (Edna May Squires) (25 Mawrth 191514 Ebrill 1998). Ymhlith ei chaneuon enwocaf oedd "A Lovely Way to Spend an Evening", "I'm in the Mood for Love", "Anytime", "If You Love Me (Really Love Me)" a "And So to Sleep Again".

Ei bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei geni mewn carafan ym Mhontyberem sydd rhyw 12 milltir o Lanelli. Roedd ei thad Archibald James Squires yn weithiwr dur, ac enw ei mam oedd Emily. Dechreuodd ganu yn broffesiynol pan oedd yn 16 oed.

Pan yn blentyn, roedd Squires eisiau piano ond prynodd ei mam iwcalili iddi. Tra'n gweithio yn y ffatri tin plat, dechreuodd berfformio'n broffesiynol pan oedd yn 16 oed, gan ganu yng nghlwb gweithwyr gwrywaidd Pontyberem.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Penderfynodd Squires ddilyn ei breuddwyd gan symud i Lundain, lle gweithiodd fel nyrs. Mynychodd glyweliadau am gyfer swyddi amrywiol ac yno cyfarfu â Joe Jay, asiant a lwyddodd i gael gwaith iddi mewn clybiau nos. Tra'n gweithio yn Nwyrain Llundain, rhoddwyd yr enw llwyfan 'Dorothy' iddi. Hoffai'r enw hwn a defnyddiodd yr enw pan oedd yn perfformio ar lwyfan o hyn allan.

Gwnaeth Squires y rhan fwyaf o'i gwaith gyda cherddorfa Billy Reid, a oedd yn bartner iddi am nifer o flynyddoedd. Ar ôl iddi ymuno â'i gerddorfa ym 1936, dechreuodd Reid gyfansoddi caneuon ar ei chyfer - a honnodd Squires iddi golli ei gwryfdra i Reid hefyd.

Roger Moore[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan ddaeth ei pherthynas â Reid i ben, priododd Squires yr actor Seisnig Roger Moore yn New Jersey ym 1953. Roedd ef ddeuddeg mlynedd yn iau na hi ond parhaodd y briodas tan 1961. Roedd y ddau yn byw ac yn gweithio arwahan (yn Efrog Newydd a Hollywood am gyfnodau hirion, ac o ganlyniad gadawodd Moore Squires, gan fynd i fyw gyda Luisa Mattioli. Ni fedrai Moore briodi Mattioli yn gyfreithlon tan i Squires gytuno i gael ysgariad ym 1969 - ar yr union ddiwrnod y cafwyd Squires yn euog o yfed a gyrru.

Dychwelodd Squires i fyw yn y DU, lle adfywiwyd ei gyrfa ar ddiwedd y 1960au a hithau'n 55 oed. Aeth tair o'i senglau i 40 Uchaf y DU, gan gynnwys ei fersiwn hi o "My Way". Arweiniodd hyn at albymau newydd a chyngherddau gan gynnwys cyfres o gyngherddau a werthodd allan ym Mhaladiwm Llundain. Squires ei hun a logodd y Paladiwm am gyfres o sioeau, a chafodd nifer o bobl syndod fod yr holl docynnau wedi gwerthu mewn cyfnod mor fyr. Rhyddhawyd albwm dwbl o'r digwyddiad.

Senglau llwyddiannus[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]