Dorothy Parker
| Dorothy Parker | |
|---|---|
| Ganwyd | Dorothy Rothschild 22 Awst 1893 West End |
| Bu farw | 7 Mehefin 1967 Dinas Efrog Newydd |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | colofnydd, bardd, sgriptiwr, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, cyfansoddwr caneuon, dialogue writer |
| Cyflogwr |
|
| Arddull | barddoniaeth, dychan |
| Tad | Jacob Henry Rothschild |
| Priod | Alan Campbell |
| Gwobr/au | Gwobr O. Henry, Neuadd Enwogion New Jersey |
| Gwefan | https://dorothyparker.com/ |
Awdures a bardd o'r Unol Daleithiau oedd Dorothy Parker (22 Awst 1893 – 7 Mehefin 1967), a oedd mwyaf adnabyddus am ei hiwmor a'i ffraethineb ynghyd â'i sylwadau bachog am ffolineb yr 20g.
Ar ôl plentyndod trist a chythryblus, daeth Parker yn enwog am ei gweithiau llenyddol mewn cyhoeddiadau fel The New Yorker ac roedd yn un o'r bobl a sefydlodd y Algonquin Round Table, grŵp a gasaodd yn hwyrach yn ei bywyd. Pan chwalodd y cylch hwnnw, teithiodd Parker i Hollywood i ddilyn gyrfa fel sgriptiwr. Cafodd lwyddiant yno, gan gynnwys dau enwebiad am Wobrau'r Academi, ond daeth ei llwyddiant i ben o ganlyniad i'w gwleidyddiaeth adain chwith, a arweiniodd iddi gael ei rhoi ar restr ddu Hollywood.
Bu Parker yn briod deirgwaith, (dwywaith i'r un dyn) a goroesodd sawl ymgais i gyflawni hunanladdiad, ond daeth yn gynyddol ddibynol ar alcohol. Fodd bynnag, mae ei gweithiau llenyddol a'i ffraethineb wedi goroesi.