Dora Thewlis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dora Thewlis
1907 arrest of Dora Thewlis.jpg
Ganwyd 15 Mai 1890 Edit this on Wikidata
Huddersfield Edit this on Wikidata
Bu farw 1976 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth ffeminist, Swffraget, ymgyrchydd pleidlais i ferched Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Dora Thewlis (15 Mai 1890 - 1976) a fu'n ymgyrchydd brwd dros sicrhau'r bleidlais i ferched.[1]

Fe'i ganed yn Honley ger Huddersfield, Swydd Efrog ar 15 Mai 1890, yn un o 7 plentyn James a Eliza Thewlis. Gwehydd oedd ei thad, ac yn ei harddegau, trodd Dora hefyd ei golygon tua'r melinau gwlân. Roedd y teulu yn sosialwyr rhonc.[2] Yn saith oed, gallai ddal pen rheswm am faterion gwleidyddol y cyfnod. Mewn pentref cyfagos, tuag ugain mlynedd cyn ei genedigaeth, sefydlwyd un o gwmniau cydweithredol cyntaf gwledydd Prydain.[3]

Swffragét[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Mawrth 1907, teithiodd i Lundain gyda charfan fawr o fenywod o Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn i gymryd rhan mewn protest arfaethedig yn Nhŷ'r Senedd yn dilyn methiant ail ddarlleniad Bill Willoughby Dickinson's ar 8 Mawrth. Roedd yn un ar bymtheg oed, ac roedd newydd ymuno gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union), cangen Huddersfield, lle roedd ei mam eisoes yn aelod. Gyda 75 o ferched eraill, fe'i harestiwyd am fod yn rhan o gynllun i dorri i mewn i Balas San Steffan. Yn y Llys, galwodd y barnwr hi "y Babi Swffragét" ac yn "llaw fach o'r felin" gan y wasg. Ymddangosodd ar dudalen flaen y Daily Mirror ddiwrnod wedi'r digwyddiad, gyda'r pennawd "Suffragettes storm the House."[4] Awgrymodd y barnwr y gallai ei rhieni ei chymryd er mwyn rhoi trefn arni. Eu hymateb oedd fod Dora Thewlis yn ddigon aeddfed i sefyll ar ei thraed ei hun, a'u bod yn ei chefnogi i'r carn. Carcharwyd hi yng ngharchar Holloway am ychydig dros pythefnos.

Ymfudodd i Awstralia cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac felly ni welodd erioed bleidlais menywod yn Lloegr, ac yn 1918 priododd Jack Dow. Cyrhaeddodd Melbourne, gyda'i chwaer Evelyn, ar 9 Hydref 1912; erbyn 1920 roedd ei rhieni ac aelodau eraill y teulu hefyd wedi ymfudo yno. Yn 1918 priododd John Thomas Dow a chawsant ddau o blant.

Bu farw yn Ascot Vale, Victoria, Awstralia yn 1976.[5]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]