Diwygiad Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Cranmer (1489–1556), Archesgob Caergaint Harri VIII a golygydd a chyd-awdur Llyfrau Gweddi Gyffredin.

Digwyddodd Diwygiad Lloegr yn ystod y 16eg ganrif. Newidiwyd crefydd swyddogol Lloegr oherwydd y Diwygiad Protestannaidd Seisnig pan dorrodd Eglwys Loegr i ffwrdd oddi wrth awdurdod y Pab a’r Eglwys Gatholig Rufeinig. Roedd y datblygiadau hyn yn gysylltiedig hefyd â’r Diwygiad Protestannaidd oedd yn digwydd yn Ewrop ar y pryd. Roedd y Diwygiad Protestannaidd yn ddatblygiad gwleidyddol a chrefyddol a effeithiodd ar Gristnogaeth drwy orllewin a chanolbarth Ewrop. Roedd nifer o resymau pam datblygodd y diwygiad - er enghraifft, dyfeisio'r wasg argraffu, cylchrediad mwy eang y Beibl a ffyrdd newydd o drosglwyddo gwybodaeth a syniadau newydd ymysg pobl ddysgedig, sef y dosbarthiadau canol ac uwch a darllenwyr yn gyffredinol. Roedd y camau gwahanol a ddatblygodd fel rhan o Ddiwygiad Lloegr, oedd hefyd yn effeithio Cymru a Lloegr, yn cael eu gyrru’n bennaf gan newidiadau ym mholisïau’r Llywodraeth, ac o ganlyniad roedd yn rhaid i'r farn gyhoeddus ymdopi â’r newidiadau hynny.[1][2]

Achoswyd Diwygiad Lloegr oherwydd rhesymau gwleidyddol yn hytrach na rhai diwinyddol. Roedd Harri VIII eisiau priodi Anne Boleyn, ond cyn gwneud hynny roedd yn rhaid iddo ysgaru ei wraig gyntaf, Catrin o Aragon, ac arweiniodd hynny at yr angen i dorri'n rhydd o Eglwys Rufain. Gwnaed y cais cyntaf i'r Pab, Clement VII, i ddiddymu’r briodas yn 1527, ond bu’n rhaid i Harri aros tan 1534 cyn iddo lwyddo. Er hynny, roedd y gwahaniaethau gwleidyddol rhwng Rhufain a Lloegr wedi caniatáu i'r bwlch diwinyddol rhwng y ddau gynyddu hefyd. Tan y toriad â Rhufain, y Pab a chynghorau cyffredinol yr Eglwys oedd yn penderfynu ar ddogma a daliadau diwinyddol Eglwys Loegr. Rheolwyd cyfraith yr Eglwys gan gyfraith eglwysig (canon law) gyda’r awdurdod terfynol yn nwylo Rhufain. Talwyd trethi eglwysig yn syth i Rufain, a’r Pab oedd â’r gair olaf wrth benodi esgobion.[3]

Cyflawnwyd y toriad gyda Rhufain drwy gyfrwng nifer o ddeddfau Seneddol a basiwyd rhwng 1532 a 1534. Yn eu plith roedd Deddf Goruchafiaeth 1534 a oedd yn datgan mai Harri VIII oedd ‘Pen Goruchaf Eglwys Loegr ar y ddaear’.[4] Golygai hyn mai Brenin neu Frenhines Lloegr oedd yr awdurdod uchaf ar faterion eglwysig o hynny ymlaen. Collodd y Pab yr incwm oedd yn deillio o diroedd yr eglwys a chollodd yr hawl i awdurdodi penodiadau esgobaethol. Yn ystod teyrnasiad Edward VI, mab Harri VIII, newidiwyd diwinyddiaeth a litwrgi Eglwys Loegr i fod yn llawer mwy Protestannaidd ei gynnwys a’i ddelwedd. Gwnaed y newidiadau hyn yn bennaf o dan arolygiaeth yr Archesgob diwygiadol, Thomas Cranmer. Yn ystod teyrnasiad Mari I, cafodd y newidiadau hyn eu dadwneud, ac unwaith eto daeth Eglwys Loegr yn ôl dan awdurdod Rhufain. Ailgyflwynwyd y ffydd Brotestannaidd gan Elisabeth ond mewn ffurf mwy cymedrol ei natur.

Bu strwythur a diwinyddiaeth yr eglwys yn destun trafod ffyrnig dros nifer o genedlaethau. Bu crefydd yn elfen a achosodd wrthdaro adeg y Rhyfel Cartref rhwng 1642 hyd 1649. Ond lleihaodd natur ymfflamychol crefydd fel pwnc llosg yn sgil gwaredu Iago II, sef y brenin Catholig diwethaf ar orsedd Lloegr, wrth i’r Senedd gyflogi Wiliam o Oren a Mari ei wraig i reoli ar y cyd drwy gyfrwng Mesur Hawliau Seisnig 1688 (sef y ‘Chwyldro Gogoneddus’). Yn sgil y newidiadau hyn, datblygodd Eglwys Sefydledig yn ogystal â nifer o gapeli anghydffurfiol. Dioddefodd aelodau’r capeli lawer o rwystrau sifil nes i’r rhwystrau hynny gael eu diddymu flynyddoedd yn ddiweddarach. Parhaodd dylanwad yr Eglwys Gatholig ar Eglwys Lloegr i fod yn destun dadleuol am flynyddoedd lawer. Parhaodd lleiafrif sylweddol (er bod eu niferoedd yn lleihau'n raddol) i fod yn aelodau o’r Eglwys Gatholig yn Lloegr rhwng 16eg a dechrau'r 19eg ganrif. Roedd bodolaeth yr Eglwys Gatholig yn anghyfreithlon yn Lloegr tan y pasiwyd Deddf Rhyddfreinio’r Pabyddion yn 1829.[5]

Y Diwygiad yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y 16eg ganrif Eglwys Loegr oedd yn rheoli'r eglwysi yng Nghymru, ac o ganlyniad pan oedd gwrthdaro neu wrthryfel yn Lloegr, gan gynnwys cyfnod y Rhyfel Cartref, roedd yr anfodlonrwydd hwnnw'n cael ei adleisio yng Nghymru.

Fel yn Lloegr, derbyniodd y rhan helaeth o Gymru y ffydd Anglicanaidd. Er hynny, roedd nifer o Gatholigion yng Nghymru yn ceisio gwrthryfela yn erbyn y drefn honno a chyhoeddwyd rhai o’r llyfrau cynharaf yn y Gymraeg ganddynt.[6] Yn 1588, cynhyrchodd William Morgan y cyfieithiad llawn cyntaf o’r Beibl yn y Gymraeg. Roedd Beibl William Morgan yn un o’r llyfrau pwysicaf yn hanes yr iaith Gymraeg, ac roedd ei gyhoeddi yn drobwynt pwysig yn statws a rhychwant yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth.

Roedd rhannau sylweddol o Gymru yn cefnogi’r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel y Tair Teyrnas ar gychwyn y 17eg ganrif, er bod eithriadau amlwg fel John Jones Maesygarnedd a’r awdur Piwritanaidd, Morgan Llwyd. Roedd Cymru yn darparu cyflenwad pwysig o filwyr ar gyfer byddinoedd y Brenin Siarl I, er na fu unrhyw frwydr bwysig yng Nghymru. Dechreuodd yr Ail Ryfel Cartref pan benderfynodd milwyr y Seneddwyr yn Sir Benfro, nad oedd yn cael eu talu, newid ochrau yn gynnar yn 1648. Trechwyd y gwrthryfelwyr Brenhinol gan y Cadfridog Thomas Horton ym Mrwydr Sain Ffagan ym Mai 1648 ac ildiodd yr arweinyddion gwrthryfelgar i Cromwell ar 11 Gorffennaf wedi gwarchae a barodd ddau fis ar dref Penfro.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Documents of the English Reformation 1526-1701. Bray, Gerald Lewis. Cambridge: James Clarke. 2004. ISBN 0-227-17239-6. OCLC 56561086.CS1 maint: others (link)
  2. MacCulloch, Diarmaid,. Thomas Cranmer : a Life (arg. Revised edition). New Haven. ISBN 978-0-300-22657-7. OCLC 961365533.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  3. Lehmberg, Stanford E. (1970). The Reformation parliament 1529-1536. Internet Archive. Cambridge [Eng.] : University Press. ISBN 978-0-521-07655-5.
  4. Elton, G. R. (Geoffrey Rudolph) (1991). England under the Tudors (arg. 3rd ed). London: Routledge. ISBN 0-415-06533-X. OCLC 24571548.CS1 maint: extra text (link)
  5. Marshall, Peter, 1964 October 26-. Heretics and believers : a history of the English Reformation. New Haven. tt. 576–577. ISBN 978-0-300-17062-7. OCLC 961308356.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. "Y Drych Cristianogawl". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 9 Medi 2020.