Diwrnod Pi (mathemateg)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Diwrnod Pi)
Bathwyd y lythyren Groegaidd π gan William Jones yn ei lyfr A New Introduction to Mathematics ym 1706.

Ers 1988 mae 14 Mawrth wedi cael ei ddynodi'n ddiwrnod rhyngwladol π sy'n ddathliad byd-eang. Deilliodd y syniad o gael diwrnod pi (weithiau: diwrnod pai) o San Francisco, Unol Daleithiau'r America, lle defnyddir y fformat 'mis/dydd/blwyddyn' ar gyfer dyddiadau; o ddilyn y patrwm hwn, mae 14 Mawrth yn cyfateb i dri digid cynta'r rhif (3.14).

Hyrwyddwyd y diwrnod hwn gan y mathemategydd Gareth Ffowc Roberts mewn cyfrolau a phapurau megis The Guardian.[1] Mae'r diwrnod hefyd yn gyfle i hyrwyddo mathemateg yn gyffredinol.[2]

I gydnabod y cysylltiad Cymreig dynodwyd 14 Mawrth yn Ddiwrnod Pai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2015 i'w ddathlu yn flynyddol o hynny ymlaen.

Bathwyd y term, neu'r lythyren Groegaidd π gan Gymro o'r enw William Jones o Gapel Coch, Llanfihangel Tre'r Beirdd, Llanfechell, yn ei lyfr A New Introduction to Mathematics ym 1706. Mae'r cysonyn mathemategol π (a sillefir hefyd fel 'pi' neu 'pai') yn rhif real, anghymarebol sydd yn fras yn hafal i 3.141592654 (i 9 lle degol).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]