Divehi

Oddi ar Wicipedia
Dhivehi
ދިވެހިބަސް
(Dhivehi)
Siaredir yn Maldives

Minicoy (India)

Cyfanswm siaradwyr 340,000
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Thaana
(Dhives Akuru nes 18g)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Maldives Maldives
Rheoleiddir gan Academi Dhivehi
Codau ieithoedd
ISO 639-1 dv
ISO 639-2 div
ISO 639-3 div
Wylfa Ieithoedd

Iaith Indo-Ariaidd yw Divehi, Dhivehi, Difehi[1] neu Maldifeg (ދިވެހި, divehi neu ދިވެހިބަސް, divehi-bas) a siaredir gan 350,000 o bobl yn Ynysoedd y Maldives a 10,000 o bobl ar ynys Minicoy yn nhiriogaeth Lakshadweep, India. Hon yw iaith swyddogol gwlad y Maldives ac iaith frodorol y Maldifiaid ethnig. Caiff ei hysgrifennu yn y sgript Thanna, a'i throsi i'r wyddor Rufeinig gan ddefnyddio ffurf "Lladin Malé".

Prif dafodieithoedd Divehi yw Malé, Huvadhu, Mulaku, Addu, Haddhunmathee, a Maliku. Divehi Malé, a siaredir yn y brifddinas, yw ffurf safonol yr iaith. Maliku yw'r enw ar dafodiaith y gymuned ym Minicoy, ond Mahl yw'r term a ddefnyddir gan y llywodraeth Indiaidd yn Lakshadweep.[2][3][4]

Disgynnai Divehi o hen iaith Maharashtra, Maharashtri Prakrit,[5][6][7] ac mae'n perthyn yn agos i'r Konkaneg, Marathi, ac iaith Sinhala, ond nid oes cyd-eglurder rhyngddynt.[8] Dynalwadai nifer o ieithoedd ar ddatblygiad Divehi drwy'r ganrifoedd, yn bennaf yr Arabeg a hefyd Ffrangeg, Perseg, Portiwgaleg, Hindwstaneg, a Saesneg. Daw'r geiriau "atol" (cylchynys) a "dhoni" (cwch traddodiadol) o'r ffurfiau Divehi atoḷu and dōni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://cy.glosbe.com/cy/dv
  2. Frommer's India – Google Books. Books.google.mv. 2010-02-18. Cyrchwyd 2013-08-21.
  3. Journal of the Bombay Natural ... – Google Books. Books.google.mv. Cyrchwyd 2013-08-21.
  4. Concise encyclopedia of languages of ... – Google Books. Books.google.mv. Cyrchwyd 2013-08-21.
  5. http://www.indianscriptures.com/Common/GeneratePDF?pkey=Languages+of+Lakshadweep&ano=1935
  6. http://www.fakten-uber.de/dramatic_prakrit
  7. "Marathi language, alphabet and pronunciation". Cyrchwyd 12 June 2016.
  8. "FindArticles.com - CBSi". Cyrchwyd 12 June 2016.