Malé
Gwedd
| Math | dinas, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr, y ddinas fwyaf, prifddinas cenedl |
|---|---|
| Poblogaeth | 133,019 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Adam Azim |
| Cylchfa amser | UTC+05:00 |
| Gefeilldref/i | Colombo, Kaohsiung, Dinas Jibwti |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Maldifeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Kaafu Atoll |
| Sir | Kaafu Atoll |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5.8 km² |
| Uwch y môr | 2 metr |
| Gerllaw | Cefnfor India |
| Cyfesurynnau | 4.175°N 73.5083°E |
| Cod post | 20002 - 20003 |
| MV-MLE | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Adam Azim |
![]() | |
Prifddinas y Maldives yw Malé. Saif y ddinas ar ynys Malé, ac roedd y boblogaeth yn y cyfrifiad diwethaf yn 133,019 (2014).
Gan nad yw ynys Malé ond 1.7 km o hyd ac 1 km o led, mae'r ddinas yn gorchuddio'r ynys i gyd. Dayblygodd y ddinas wedi i'r Maldives droi at Islam yn y 12g. Yr yr 20g, wedi i'r wlad ddod yn weriniaeth, ail-adeiladwyd y ddinas yn sylweddol dan yr Arlywydd Ibrahim Nasir; chwalwyd muriau'r ddinas a'r palas brenhinol, ac ychwanegwyd at arwynebedd yr ynys. Dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas ar 26 Rhagfyr 2004 gan Tsunami Cefnfor India 2004.
Adeilad pwysicaf y ddinas yw Mosg Dydd Gwener. Ni cheir adeiladu unrhyw adeilad ym Malé yn uwch na'r mosg yma.
