Diffyg ar y lleuad
Math | eclips |
---|---|
Yn cynnwys | penumbral lunar eclipse, total lunar eclipse, partial lunar eclipse |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pan fo'r Lleuad yn union y tu ôl i'r Ddaear, mae'r Ddaear yn atal golau'r Haul rhag ei chyrraedd ac felly ceir cysgod drosti; gelwir hyn yn ddiffyg ar y lleuad (hefyd clip ar y lleuad ac eclips lleuad).[1][2] Ceir dau fath o ddiffyg: llawn a rhannol.
Dim ond pan fo'r Haul, y Ddaear a'r Lleuad mewn llinell syth y ceir diffyg llawn a dim ond pan fo'r lleuad yn llawn y gall hyn ddigwydd. Ceir hefyd diffyg rhannol ar y lleuad.
Yn wahanol i ddiffyg ar yr Haul, a ellir ei weld yn unig o un rhan daearyddol o'r Ddaear, gellir gweld diffyg ar y lleuad o unryw ran o'r Ddaear sydd mewn nos. Gwahaniaeth arall yw fod diffyg ar y Lleuad yn para am oriau, eithr nid yw diffyg ar yr Haul yn para mwy nag ychydig funudau. Y rheswm dros hyn yw fod cysgod y Lleuad yn llawer iawn llai. Yn ogystal â hyn mae'n gwbwl ddiogel edrych ar ddiffyg ar y Lleuad heb unrhyw ffiltrau, rhag y pelydrau sy'n niweidiol i'r llygaid.
Ceir rhwng dau a phum diffyg rhannol ar y lleuad bob blwyddyn.
Lleoliadau
[golygu | golygu cod]Chwedloniaeth
[golygu | golygu cod]Mae sawl diwylliant, dros y canrifoedd, wedi gweld tebygrwydd rhwng y cysgod yn symud dros y Lleuad ag anifail yn ei bwyta. Yn yr Hen Aifft, hwch oedd yr anifail ac yn ôl traddodiad y Maya, jagiwar ydoedd. Yn nhraddodiad Tsieina, llyffant teircoes oedd yn bwyta'r lloer a'r diafol mewn diwylliannau eraill a ellid ei erlid drwy daflu cerrig a rhegfeydd ato.[3]
Ym Mecsico, credent bod diffyg yr Haul a'r Lleuad yn digwydd pan oedd yr Haul a’r Lleuad yn cweryla; ar y llaw arall, credai pobl Tahiti mai syrthio mewn cariad oedd yr Haul a’r Lleuad ar yr adegau yma.
Mewn llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- 689: Cyfeiria Llyfr Coch Hergest at ddiffyg ar y lleuad yn y flwyddyn 689, pan sonir am law lliw gwaed: A'r lleuat a ymchoelawd yn waedawl liw.
- 810-810 OC: Deg mlyned ac wythcant oed oet Crist pan duawd y lleuat dyw Nadolyc. Ac y llosget Mynyw. Ac y bu varwolaeth yr anifeilet ar hyt ynys Brydein. (Brut y Tywysogion)[4] Mae'n cyfeirio at y diffyg a fu ar 14 Rhagfyr 810 (Calendr Iŵl), mae'n debyg.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Diffyg ar y Lleuad ar 3 Mawrth 2007. Yma, gwelir yn glir symudiad cysgod y Ddaear dros y Lloer.
-
8 Hydref 2014
-
5 Ebrill 2014
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Diffyg modrwyol - annular eclips - pan fo'r Lleuad bellaf o'r Ddaear
- Cil y Lleuad - chwarter olaf, pan ei bod yn fain fel gewin bys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ar y lleuad Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 27 Mawrth 2015
- ↑ Llyfrau Gwgl; adalwyd 27 Mawrth
- ↑ Littmann, Mark; Espenak, Fred; Willcox, Ken (2008). "Pennod 4: Eclipses in Mythology". Totality Eclipses of the Sun (arg. 3rd). Efrog Newydd: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-953209-4. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2014.
- ↑ www.jonesbryn.plus.com; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 31 Mawrth 2015