Sgwrs:Diffyg ar y lleuad

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Priflythrennau neu ddim?[golygu cod]

Ll fawr yn lleuad? H fawr yn Diffyg ar yr Haul? Un lleuad penodol yw hwn, nid unrhyw leuad. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:58, 27 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Yn fy marn i does dim angen priflythyren. "Bydd diffyg ar y lleuad ar ..." "Mae diffygion ar y lleuad ..." ayyb. 'Run fath efo'r term Saesneg "lunar/solar eclipse". Mae'r unig ddau lyfr Cymraeg ar seryddiaeth sydd ar fy silffoedd yn hen ond "diffyg ar y lleuad / yr haul" sydd yn y ddau ohonynt. Anatiomaros (sgwrs) 00:29, 1 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Syth/seth[golygu cod]

A ddylid newid llinell syth i llinell seth? Dyna fyddai'r ffordd gywir o'i hysgrifennu am fod ffurf fenywaidd i syth, sef seth, wrth gwrs. Ond, nid ydw i wedi ei newid eto oherwydd efallai y byddai rhai'n ei ystyried yn hynafol, ac felly'n amhriodol? Felly beth yw'r farn am seth fenywaidd ar Wici Cymraeg? 95.150.75.252 18:35, 31 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Mae'r ffurf ansoddeiriol fenywaidd 'seth' yn hynafiaethol iawn erbyn hyn; dwi ddim yn meddwl basa neb bron yn ei defnyddio y dyddiau hyn, nac ar lafar na mewn llyfr. Anatiomaros (sgwrs) 00:18, 1 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno efo Anat, ol ddy we! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:16, 1 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]