Diffeithwch Syria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal eang o dir anial yn y Dwyrain Canol yw Diffeithwch Syria neu Anialwch Syria (Arabeg: Badiyat ash-Sham). Mae'n ddiffeithwch lled uchel sy'n cyrraedd 1128m yn ei bwynt uchaf. Diffeithwch carregog ydyw'n bennaf, yn hytrach nag anialwch tywodlyd. Ffurfiwyd tirwedd unigryw y diffeithwch gan lifau lafa o ardal folcanig Jebel Druze yn ne Syria.

Yn ddaearyddol, mae'n gorwedd rhwng y Lefant i'r gorllewin a Mesopotamia i'r dwyrain. Yn nhermau daearyddiaeth wleidyddol, mae'n cynnwys de-ddwyrain Syria ei hun, rhan o ddwyrain Gwlad Iorddonen, gorllewin Irac a rhan fach o ogledd-orllewin Saudi Arabia. Fe'i gelwir yn Ddiffeithwch Syria am ei fod yn rhan o Syria Fawr.

Mae Diffeithwch Syria wedi bod yn groesfan ers gwawr hanes ond ni cheir unrhyw dref fawr yn y diffeithwch ei hun. Ar ei ymyl ogledd-orllewinol ceir safle dinas Palmyra, un o entrepôts mawr y Dwyrain Canol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae llwythau Bedouin wedi byw yn y diffeithwch ers canrifoedd lawer; heddiw mae'r rhan fwyaf yn byw mewn trefi a phnetrefi bychain ger yr ychydig werddonau ffrwythlon, ond mae rhai Bedouin yn dal i fyw yn y ffordd draddodiadol yn y diffeithwch ei hun.

Ceir arysgrifau Safaitig (testunau proto-Arabeg a ysgrifenwyd gan Bedouin llythrennaidd), ar draws y ddiffeithwch. Mae'r rhain yn dyddio o tua'r ganrif 1af CC hyd y 4edd ganrif OC.

Dim ond dwy ffordd o bwys sy'n croesi'r diffeithwch. Rhed y pwysicaf rhwng Damascus, prifddinas Syria, a thref Ar Rutbah yn Irac ac ymlaen i Baghdad. Mae ffordd arall dros y diffeithwch rhwng Amman ac Ar-Rutbah.

Rhyfel Irac[golygu]

Ers dechrau Rhyfel Irac, mae'r diffeithwch wedi bod yn llwybr cyflenwad pwysig i wrthryfelwyr yn Irac, gan fod y rhan o'r diffeithwch sy'n gorwedd yn Irac yn ffurfio un o gadarnleoedd y gwrthryfelwyr Sunni sy'n ymladd yn nhalaith Al Anbar.