Ar Rutbah
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
dinas ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ar Rutba District ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
33.03°N 40.28°E ![]() |
![]() | |
Mae Ar Rutbah (Arabeg:الرطبة, hefyd Rutba, Rutbah, neu Ar Rutba) yn dref fechan yng ngorllewin Irac sy'n gorwedd yn nhalaith Al Anbar. Mae'n gorwedd ar lwyfandir uchel. Mae ganddi boblogaeth o tua 25,000.
Fe'i lleolir mewn man strategol ar y briffordd Amman-Baghdad, a'r bibell olew Mosul-Haifa. Mae priffordd draws-anialwch arall yn ei cyhysylltu â Damascus. Er ei bod ar ymyl Diffeithwch Syria, ystyrir y dref yn "fan gwlyb" yn y rhan yma o'r byd, gan dderbyn 114.3 mm (4.5 modfedd) y flwyddyn. Fel yn achos gweddill talaith Al Anbar, mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn Fwslemiaid Sunni.
Ers i'r Unol Daleithiau oresgyn Irac yn 2003, mae'r dref yn gartref i garsiwn Americanaidd sylweddol.