Desmond Healy

Oddi ar Wicipedia
Desmond Healy
Ganwyd1930 Edit this on Wikidata
Bancffosfelen Edit this on Wikidata
Bu farw2021 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata

Athro a phrifathro oedd Howard Desmond Healy (193011 Ionawr 2021), a oedd yn enedigol o Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, treuliodd ddwy flynedd fel glöwr, cyn mynd yn athro. Bu'n athro yn Arberth ac wedyn yn Ysgol y Preseli cyn symud i'r Gogledd fel prifathro Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, yn 1964, lle bu nes iddo ymddeol yn 1985, gan brofi twf anferthol yn nifer y plant a fynychai'r ysgol. Bu'n byw yn Rhuddlan gyda'i wraig Eirlys (a fu farw o'i flaen), gyda'u plant Euros a Catrin.

Roedd yn llenor, gan ysgrifennu nofel o'r enw Yn Fflamau'r Tân a chyfrol o farddoniaeth, sef Geiriau. Ysgrifennodd lyfr ar grwydro America hefyd.[1]

Roedd Desmond Healy'n daid i ferched y grŵp canu Sorela, sef plant Euros a'i gyn-wraig Linda Griffiths y gantores.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Crwydro de America (Gwasg Gomer, 1964)
  • Yn Fflamau'r Tân (Gwasg Gee, 1965)
  • Geiriau (Gwasg Gee, 1981)
  • Y Rhyl a'r Cyffiniau (C. Davies, 1985)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Desmond Healey", Gwefan Byd y Beirdd; adalwyd 27 Mehefin 2023