Deng Xiaoping

Oddi ar Wicipedia
Deng Xiaoping
Ganwyd22 Awst 1904 Edit this on Wikidata
Guanganzhou Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 1997 Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Qing, Gweriniaeth Tsieina, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Sun Yat-sen Moscfa
  • Communist University of the Toilers of the East Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, diplomydd Edit this on Wikidata
Swyddparamount leader of the People's Republic of China, Chairman of the Central Military Commission of the Chinese Communist Party, Chairman of the National Committee of the Chinese People's Political Consultative Conference, Chairman of Central Military Commission of People's Republic of China, Vice Premier of the State Council of the People's Republic of China, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Tsieina, Kuomintang Edit this on Wikidata
MudiadChinese economic reform Edit this on Wikidata
PriodZhang Xiyuan, Jin Weiying, Zhuo Lin Edit this on Wikidata
PlantDeng Pufang, Deng Nan, Deng Rong, Deng Zhifang Edit this on Wikidata
Gwobr/auPeople's Liberation Army Strategist, Financial Times Person of the Year Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Tsineaidd oedd Deng Xiaoping (22 Awst 190419 Chwefror 1997). Ef oedd arweinydd Gweriniaeth Pobl Tsieina o 1977 hyd 1989.

Ganed ef yn Chongqing. Yn y 1920au, bu'n astudio yn Ffrainc, lle daeth yn aelod o gymdeithas y myfyrwyr Tsieineaidd Comiwnyddol. Yn 1926 aeth i Moscow. Wedi dychwelyd i Tsieina, daeth yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Tsieina.

Bu'n ymladd yn y rhyfel gerila yn erbyn y Kuomintang, ac yna yn erbyn Japan. Daeth yn aelod o Gyngor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yn 1945, ac wedi i'r blaid ddod i rym yn 1949, daeth yn ddirprwy brif weinidog ac yn aelod o'r aelod o'r Politbureau yn 1952. Yn 1956 daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol, a'r ail berson mwyaf pwerus yn Tsieina ar ôl Mao Zedong.

Wedi marwolaeth Mao yn 1976, bu ymryson am rym rhwng Deng a'r Gang o Bedwar, oedd yn cynnwys gweddw Mao, Jiang Qing. Enillodd Deng, ac ef fu'n rheoli Tsieina o hynny hyd 1989, pan benododd Jiang Zemin fel ei olynydd. O hynny ymlaen, roedd yn parhau yn ffigwr pwysig yn y cefndir.