Dyfnog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Defynog)
Dyfnog
Ganwyd7 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd7 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Edit this on Wikidata
Ffynnon Sant Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch.
Eglwys enwog Sant Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch.

Sant Cymreig oedd Dyfnog (amrywiadau: Dyfynog, Defynog). Dywedir ei fod yn byw yn y 7g. Roedd yn feudwy yn byw ar ddŵr a bara a wisgai grys rawn a gwregys haearn trwm.[1]

Tras[golygu | golygu cod]

Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd Dyfnog yn ŵyr i Cawrdaf mab Caradog Freichfras (bl. 6g), pennaeth a sant o'r Hen Ogledd a fudodd i Gymru.[2]

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Dyfnog yw nawddsant plwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, rhwng Dinbych a Rhuthun yn Sir Ddinbych. Ystyrir Eglwys Sant Dyfnog yn un o eglwysi canoloesol pwysicaf Cymru; disgrifiwyd ffenestr Coeden Jesse fawr yr eglwys fel "y ffenestr wydr orau yng Nghymru". Gerllaw mae Ffynnon Sanctaidd Sant Dyfnog, oedd yn arfer bod yn gyrchfan boblogaidd i rai'n dymuno iachad mor ddiweddar â'r 18g yn ôl Thomas Pennant yn ei lyfr Tours in Wales.[1]

Ceir eglwys wedi'i chysegru i Ddyfnog yn ardal Brycheiniog hefyd, er y dywedir hefyd mai Cynog Ferthyr (m. 492) mab Brychan, brenin teyrnas Powys, a'i sefydlodd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000), tud. 214.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978), tud. 303.