Defnyddiwr:Gareth llanrug

Oddi ar Wicipedia
Sefydlwyd Badau achub yn Llandudno yn  hanner gyntaf 1861 wedi i dros fil o bobl farw mewn llongddrylliadau ar draethau cyfagos.

Yn Ionawr 1642 collwyd y Phoenix, un o dair llong rhyfel o lynges Wyddelig Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl I]] ac ni chredir i neb gael ei hachub. Ar Ddydd Calan 1824 roedd yr Hornby ar ei thaith o Lerpwl i India'r Gorllewin gyda chriw o 14 a dau deithiwr. Fel roedd y llong yn taro'r creigiau yn ystod y nos, taflwyd un o'r criw, John Williams, ar silff o graig, ac ef oedd yr unig un a achubwyd. Pan wawriodd, cerddodd i'r efail ar y Gogarth at y mwynwyr. Yn ddiweddarach carcharwyd 19 o'r rheini am ysbeilio'r llong! Arhosodd John Williams yn Llandudno a daeth yn un o'r mwynwyr. Yn 1831 boddwyd 128 oedd yn teithio ar y Rothsay Castle. Llongau eraill a gollwyd oedd y Lady Harriet ac yn 1848 collwyd 200 o fywydau pan aeth yr Ocean Monarch ar dân a suddo ar fordaith o Lerpwl i America.

Y bad achub cyntaf "Sisters Memorial 1".

Bad achub cyntaf Llandudno oedd y Sisters Memorial a gyrhaeddodd y dref yn gynnar yn 1861. Fe'i lansiwyd am y tro cyntaf ar 9 Chwefror mewn ymgais i gyrraedd llong oedd mewn helynt ger y Rhyl. Yn anffodus, suddodd y William - sgwner o Lerpwl - ond achubwyd ei chriw gan fad achub y Rhyl. Y bore wedyn derbyniwyd galwad arall at sgwner yn Afon Menai, ond llwyddodd bad achub Penmon i gael y blaen arnynt!

Yn 1867 penderfynwyd nad oedd y Sisters Memorial yn addas i'r gwaith wedi i'r bad droi drosodd ger y Rhyl a thaflu'r criw i gyd ond un i'r môr! LLUN Sisters Memorial 2

Yr ail bad achub "Sisters Memorial 2".

Penderfynwyd galw'r bad achub newydd yn 'Sisters Memorial 2'. 'Roedd yn 33 troedfedd o hyd gyda 10 o rwyfau. Costiodd £284-3-10. Ar yr 20fed. o Fedi, 1887, y daeth yr alwad gyntaf at y 'Jane' oedd wedi angori ger y Gogarth Fawr yn ystod storm ogleddol, â'i mast ar ei ochr. Llwyddwyd i achub y capten, ei wraig a'r criw o ddau. Tynnwyd y bad achub i'r lan gan y 'Prince Arthur'.

Roedd hi'n stormus iawn ar Ddydd Calan, 1875, gyda'r gwynt o'r de ddwyrain. Lansiwyd y bad achub am 1430 i helpu'r 'Hester'. Llwyddwyd i achub y criw o ddau er i'r bad gael ei lenwi â dr o leiaf bedair gwaith. Cyrhaeddwyd y lan am naw o'r gloch yr hwyr. Erbyn 1885 defnyddid cloch a baner i alw'r criw. Ar Awst 10fed. y flwyddyn honno, a hithau'n stormus gwelwyd bod llong hwyliau, y Mira mewn trafferthion gyda phedwar dyn ar ei bwrdd. Llwyddwyd i'w hachub ond dymchwelwyd y Sisters Memorial 2 gan daflu pawb i'r môr. Llwyddodd pawb ond un i ddringo'n ôl ar ei bwrdd a bu'n rhaid i John Roberts neidio i'r dr i'w achub. Lansiwyd am y tro olaf ar y 7fed o Fedi 1887 pan achubodd griw yr 'Haidee' oedd ar suddo. Yn gyfangwbl, achubodd 35 o fywydau. LLUN Sunlight 1

Y Sunlight 1 oedd y drydedd bad achub

Ar Hydref 15fed., 1887 anfonwyd bad achub newydd i Landudno o Lundain ar y tren! 'Roedd yn 37 troedfedd o hyd ac 8 troedfedd o led, gyda 12 rhwyf arni. Fe'i adeiladwyd gan Gwmni Forrest ar gost o £529. Talwyd am y bad gan gwmni sebon Brodyr Lever o Port Sunlight, a'r enw a roddwyd ar y cwch oedd 'Sunlight 1'. Ar y 7fed. o Hydref 1889 fe'i galwyd i roi cymorth i ddau gwch pysgota oedd mewn helynt dair milltir o'r bae. Llwyddwyd i achub y criw o bedwar oddi ar un cwch a'u cludo i'r lan cyn dychwelyd i achub y gweddill. Yn Medi 1890 'roedd Brenhines Rwmania yn aros y n y dref, ac ar ôl gweld y bad achub cyflwynodd rodd o ddegpunt i'r criw. Yn ystod y cyfnod, lansiwyd y 'Sunlight 1' ar 19 o weithiau ac achubwyd 26 o fywydau. LLUN Theodore Price

Y Theodore Price

Yng Ngorffennaf 1902 cyrhaeddodd bad achub newydd, y Theodore Price,—37 troedfedd o hyd ond 'roedd yn lletach na'r un blaenorol. Dim ond 10 rhwyf oedd ar hon. Costiodd £908 a bu'n rhaid adeiladu cwt newydd yn 1904 ar gost o £1370. Ar y 3ydd. o Chwefror, 1903 y daeth yr alwad gyntaf i gynorthwyo stemar oedd bum milltir o Oleudy'r Gogarth. Yn ystod storm y noson cynt 'roedd cargo'r 'Wylam' wedi symud, ac 'roedd dros with troedfedd o ddr yn stafell yr injan pan gyrhaeddodd y bad achub. Llwyddwyd i'w chael i'r bae yn ddiogel. Ar 22ain o Chwefror, 1908, lansiwyd y Theodore Price i helpu'r Lily Garton oedd mewn trafferthion yn aber Afon Conwy. Wrth fynd rownd y Gogarth malwyd rhannau o'r bad achub a chlwyfwyd un o'r criw, Evan Evans, yn ddrwg. Bu farw aelod arall o'r criw, John Williams yn fuan wedyn oherwydd effeithiau'r storm.

Ar 27 Mawrth, 1919, collodd y sgwner Ada Mary ei hwyliau ger Bae Colwyn mewn storm. Lansiwyd y bad achub ond cafodd ei orchuddio gan y tonnau deirgwaith. Ar ôl brwydro, cyrhaeddodd y sgwner ac achub y ddau oedd ar ei bwrdd. Methwyd a dychwelyd i Landudno a bu'n rhaid glanio ym Mae Colwyn. Y tro olaf i'w lansio oedd yn Hydref 1927 i helpu cwch hwylio y Delyshore ger y pier ac achubwyd y tri oedd ar ei bwrdd. Daeth cyfnod y Theodore Price i ben yn 1930 ar ôl 42 o alwadau pan achubwyd 39 o fywydau. Y Sarah Jane Turner ddaeth wedyn, a adeiladwyd yn 1901 ar gyfer Gorsaf Montrose yn yr Alban. Gwerthwyd y Theodore Price yn lleol ac fe'i addaswyd fel 'cabin cruiser' a'i enwi yn 'Maralic'. Trwy gyd-ddigwyddiad 'roedd yr alwad gyntaf i'r Sarah Jane Turner ar y 4ydd o Hydref, 1930, i helpu'r Maralic yn aber Afon Conwy, ond llwyddodd y Maralic i ddychwelyd i Gonwy heb gymorth. Byr fu arhosiad y bad achub yma, ac erbyn diwedd 1931 cafwyd cwch arall—Matthew Simpson.

Tua diwedd 1931 y cyrhaeddodd y Matthew Simpson i gymryd lle'r Sarah Jane Turner. Eto, bad o 37 troedfedd o hyd, oedd braidd yn hên yn cyrraedd Llandudno gan iddi gael ei hadeiladu yn 1903 ar gyfer Gorsaf Berwick. Dim ond unwaith y lansiwyd hi yn ystod ei harosiad byr, a hynny ar y 29ain o Orffennaf, 1933, ar ôl derbyn neges bod awyren wedi plymio i'r môr ger Llandudno. Ond, er chwilio'n ddyfal ni ddarganfuwyd dim.

LLUN: Tyrfa wedi ymgynnull tu allan i gwt y bad achub yn Stryd Lloyd i weld y Matthew Simpson

Y bad achub Y Matthew Simpson

Ar 16 Medi 1933 cyrhaeddodd Thomas & Annie Wade Richards. Adeiladwyd yn Cowes gan Gwmni J. Samuel White. 'Roedd y bad achub yma ychydig yn llai o hyd (35 troedfedd) gyda pheiriant petrol 35hp Weyburn AE6 a gallai deithio ar gyflymdra o 7.33 knots. Hefyd cafwyd tractor pwrpasol ar gyfer y gwaith o lansio, un a arferai fod ar waith yn Port Logan.

Bu'r alwad gyntaf ar y 6ed o Fai, 1934 am 11 y bore. Collodd cwch hwylio, y 'Mizpah' ei hwyliau mewn môr garw ddwy filltir o'r Gogarth Fach. Llwyddwyd i achub y criw o dri yn ddiogel a mynd â'r cwch yn ddiogel i Gonwy. Trwy gyd-ddigwyddiad, at y 'Mizpah' y bu'r ail alwad hefyd (ar Awst 24, 1924) pan aeth i drafferthion ym Mae Llandudno. Eto, llwyddwyd i achub y criw o dri.

Ar Mehefin 1af, 1939, 'roedd y llong danfor, Thetis, wedi mynd i drafferthion wrth blymio ym Mae Lerpwl. Bu'r Thomas & Annie yn cynorthwyo drwy hebrwng meddyg at y destroyer Somali. Yn anffodus, collwyd 99 o fywydau, a dim ond pedwar o fywydau a achubwyd.

Ar y 9fed o Dachwedd, 1940, 'roedd cwch pysgota, 'Leonard' wedi angori wrth y pier a'r 'hold' yn llawn o ddwr. Gyda Gwynt y Gogledd yn rhuo, bu'n rhaid cael cymorth y frigad dân i bwmpio'r dwr, ond yna bu'n rhaid lansio'r bad achub i ddadlwytho'r pysgod oedd ar ei bwrdd. Parhaodd y gwaith drwy'r dydd a'r nos cyn i'r 'Leonard allu hwylio i gyfeiriad Bangor yn ddiogel gyda'r bad achub yn ei hebrwng ar y daith. Daeth yr alwad olaf ar y 10fed o Ebrill, 1952. 'Roedd cwch pysgota o Gonwy y 'Liver Bird' mewn trafferthion ddwy filltir i'r gogledd o'r Gogarth Fawr, gydag un dyn, oedd wedi cael damwain ddrwg i'w law, a'i gi ar ei bwrdd. Llwyddwyd i'w achub a thrin ei glwyfau. Lansiwyd y Thomas & Annie 57 o weithiau a llwyddwyd i achub 38 o fywydau.


Thomas and Annie Wade Richards

Anfonwyd y Tillie Morrison Sheffield i Landudno yn Chwefror 1953. 35 troedfedd oedd hyd y bad yma hefyd, ond 'roedd yna ddau beiriant petrol 18bhp Weyburn. Adeiladwyd ym 1947 ar gyfer Gorsaf Bridlington, ond, tra 'roedd ar alwad yno ar 19 Awst, 1952, fe ddymchwelodd ac fe gollwyd un o griw y bad achub. Ar ôl hynny, cafodd y Tillie Morrison ei ail-drin a'i anfon i Landudno. Ar Fehefin 1af, 1953 y bu'r alwad gyntaf pan lansiwyd i gynorthwyo HMS Verulan oedd mewn trafferthion. Llwyddwyd i ddod â deuddeg o bobl i'r lan yn ddiogel. Di gynnwrf fu gweddill arhosiad byr y Tillie Morrison a gadawodd y dref yn Mehefin 1959. LLUN Tillie Morrison Sheffield

Yr Annie Ronald & Isabella Forest fu'n gwylio'r glannau rhwng 1959 a 1964. Hen fad achub St. Abbs oedd hwn a adeiladwyd yn 1936. Ar y 4ydd o Hydref 1959 'roedd cwch rhwyfo yn cario pedwar o bobl mewn trafferthion ger y Gogarth Fawr mewn môr garw a gwynt cryf o'r de. Llwyddwyd i'w hachub. Yna daeth galwad arall y pnawn hwnnw at gwch bychan yr 'Aires' oedd dair milltir o Benmaenmawr gyda dau ar ei bwrdd. Achubwyd hwythau. Yn anhygoel, cafwyd trydydd galwad bod cwch hwylio mewn trafferthion, ond er chwilio'n ddyfal am oriau, ni ddarganfuwyd dim. Ar y 7fed o Fedi, 1963, y daeth yr alwad olaf at gwch hwylio ger Goleudy'r Gogarth ar ei ffordd i Landrillo yn Rhos, pan oedd y bad ar gychwyn i Fae Colwyn i gymryd rhan mewn arddangosfa'r Awyrlu. Achubwyd hwy a thynnu eu cwch i'r lan, ond o fewn tri chwarter awr 'roeddynt mewn trwbl unwaith eto! LLUN Annie Ronald and Isobella Forrest

LLUN Lily Wainwright Lansiwyd y Lilly Wainwright am y tro cyntaf ar 13 Mawrth, 1964, wedi i ddyn gael ei gario allan i'r môr yn aber Afon Conwy yn ei gwch hwylio fechan. Gwelwyd y cwch gan hofrennydd ar y creigiau ger y Gogarth Fawr, ond 'd oedd dim golwg o'r morwr yn unman.

Ym mis Mai, 1968, 'roedd bad achub Llandudno yn y newyddion ar draws y byd! Y St. Trillo oedd mewn helynt gyda'r propelor wedi ei glymu gan raff a'r stemar yn 'drifftio' i gyfeiriad y Gogarth Fach. Ar ei bwrdd 'roedd 420 o bobl a phlant yn cynnwys 325 o Americanwyr cefnog o'r llong bleser o Sweden, y 'Kungsholm'. Yn anffodus, 'r oedd un ohonynt angen 'insulin'. Aeth pethau o ddrwg i waeth pan glymodd rhaff o'r 'Kungsholm' ym mhropelor y St Trillo. Erbyn hyn 'r oedd y ' Kungsholm' wedi hwylio i ffwrdd oherwydd y tywydd stormus. Brwydrodd criw y Lily Wainwright drwy'r môr garw at y 'Kungsholm' i godi'r 'insulin' a'i gario'n ddiogel at y St. Trillo. Yna, cafwyd cymorth cwch pysgota o Gonwy, 'Kilravock' dynnu'r St. Trillo at y pier yn Llandudno a'i chlymu yno. Aed â'r teithwyr blinedig i westai yn y dref am y noson, ac 'roeddynt mor ddiolchgar am gael eu hachub nes penderfynu gwneud casgliad o £3562 tuag at y bad achub.

GWAITH GWAHANOL! Ar y 26ain o Chwefror, 1990, dioddefodd Glannau'r Môr Gogledd Cymru y llifogydd gwaethaf o fewn cof, gyda Towyn, Pensarn a Bae Cinmel y lleodd a ddioddefodd yn ddrwg iawn gyda'r môr yn torri drwy'r môrglawdd a chreu llifogydd o dros chwe troedfedd. Bu'r cwch bychan rwber o Orsaf Llandudno yn brysur iawn yn ystod y cyfnod yma yn achub pobl o'u cartrefi. LLUN Andy Pearce Adeiladwyd yr Andy Pearce yn Cowes a daeth i Landudno ar y 15fed o Dachwedd 1990. Fe gostiodd bron i £455,000, ond mae'n gallu teithio ar gyflymdra o 17.5 knots, sydd ddwywaith mor gyflym â'r Lilly Wainwright. Pan gyrhaeddodd gyntaf bu'n rhaid ei gadael ar y stryd oherwydd bod craciau wedi ymddangos yn y concrid o flaen y cwt bad achub! Bu'r alwad gyntaf ar 17 Ebrill, 1991 i achub dau oedd mewn hen gwch achub ger Llandrillo yn Rhos mewn gwynt cryf o'r gogledd orllewin. Llwyddwyd i'w hachub a mynd â hwy i'r lan yn Neganwy. Ym Mehefin, 1992, 'roedd y llong cargo 'Residu' mewn trafferthion 25 milltir i'r gogledd o'r Gogarth Fawr. 'Roedd y môr yn llifo i mewn i'r llong. Ceisiodd y criw fynd â hi i Ynys Manaw, ond ofer fu eu hymdrechion oherwydd y tywydd garw a chyflwr y cwch. Galwyd am hofrennydd o'r Fali i achub y criw. Arhosodd yr Andy Pearce gyda'r Rehu ond er yr ymdrechion fe suddodd honno o fewn rhai oriau.

Ar y 12fed o Fawrth, 2003, 'r oedd hi'n dipyn o banic pan sylweddolodd criw cwch pysgota eu bod wedi codi bom Almaenig yn eu rhwydau dair milltir o'r Gogarth Fawr. Llwyddwyd i fynd â'r bom i le diogel i'w ffrwydro, ond 'roedd yn amser pryderus i'r criw.

Ar y 9fed o Fehefin, 1993, bu digwyddiad arswydus yn dilyn glaw eithriadol o drwm a ddechreuodd tua pedwar o'r gloch y prynhawn. Bu rhannau helaeth o Landudno dan ddwr a gwnaeth y cwch bychan waith rhyfeddol unwaith eto yn achub nifer o bobl o'u cartrefi. CYCHOD LLAI Sylweddolodd y Gymdeithas RNLI bod mwy a mwy o waith i'r cychod bychan. Yn Hydref 1996 cyrhaeddodd y John Saunderson a bu ar alwad nifer o weithiau hyd 2007 yn achub pobl a phlant oedd wedi eu dal gan y llanw ar Draeth y Gogledd a Phenmorfa. Yna , cyrhaeddodd y William Robert Saunderson yn 2007. Y ddiweddaraf yw y Dr Barbara Saunderson a gyrhaeddodd y dref yn 2016. Dr Saunderson fu'n gyfrifol am ariannu y cychod bach a derbyniodd fedal arbennig am ei haelioni. Bu farw yn 2014.

Bellach, mae'r Andy Pearce wedi bod yn achub morwyr am 37 mlynedd, Mae natur y gwasanaeth wedi newid yn arw erbyn hyn a'r cychod bychan sy'n gyfrifol am y rhan helaethaf o'r gwasanaeth achub


BAD ACHUB NEWYDD – William F Yates

Y Bad Achub Newydd William F Yates
Yr hen, y newydd a'r cwch bach

Cyrhaeddodd bad achub newydd yr RNLI, gwerth £2.2m, ei chartref newydd yng Nghraig-y-Don, Llandudno, am hanner dydd ar y 24ain o Fedi, a daeth tyrfa fawr i'w chroesawu. Mae'r cwch yn gallu cyrraedd cyflymder o 25 'knot' sy'n 50% yn gynt na'r cwch blaenorol, fydd yn galluogi i griwiau achub gyrraedd digwyddiadau ynghynt. Bydd y cwch math Shannon, y 'William F Yates', sef cwch sy'n cael ei bweru gan jetiau hydro dŵr yn hytrach na phropelor cyffredin, yn olynu yr 'Andy Pearce' a hi, yn ogystal â'r cwch bach, 'Dr Barabara Saunderson', gafodd y dasg o arwain y 'William F Yates' i Graig y Don o Gonwy.

Dywedodd llywiwr bad achub Llandudno, Graham Heritage, fod y cwch newydd yn bennod gyffrous yn hanes RNLI Llandudno. "Mae'n anrhydedd i'r criw gael eu dewis i fod â chyfrifoldeb o gartrefu ein cwch achub pob tywydd," meddai.

Y criw tu allan i gartref newydd y bad achub

LLUNIAU 1. Sisters Memorial 2. Sisters Memorial 2 3. Sunlight 1 4. Theodore Price lliw 5. Matthew Simpson 6. Thomas and Annie Wade Richards 7. Tillie Morrison 8. Annie Ronald and Isobella Forrest 9. Lily Wainwright lliw 10. Andy Pearce 11. John Saunderson

12. William F Yates (Llun: Paul Griffiths) 13. y 3 cwch (Llun: Paul Griffiths) 14. Y criw presennol