Defnyddiwr:Catrin James/Pwll Tywod

Oddi ar Wicipedia

Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru â dros 55,000 o aelodau[1] rhwng 8 a 25 mlwydd oed.  Sefydlwyd yr Urdd yn 1922.  Mae’r Urdd yn fudiad unigryw gyda’r nod I ‘sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg I holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi I chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol’.  Mae 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r Urdd.

Mae’r Urdd yn sicrhau bod darpariaeth sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu cyfleoedd positif sydd yn ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy:

1.    Canolfannau Preswyl

2.    Darpariaeth Chwaraeon

3.    Celfyddydau a diwylliant

4.    Gwaith Ieuenctid

5.    Prentisiaethau a Sgiliau

6.    Gweithgareddau Awyr Agored

7.    Gwirfoddoli

8.    Gweithgareddau Dyngarol

9.    Rhwydwaith o ddarpariaeth gymunedol

10. Cyfleoedd Rhyngwladol

11. Cyhoeddiadau

Cynnwys

1.    Hanes Urdd Gobaith Cymru

2.    Urdd heddiw

3.    Canolfannau Preswyl

4.    Darpariaeth Chwaraeon

5.    Celfyddydau a diwylliant

6.    Gwaith Ieuenctid

7.    Prentisiaethau a Sgiliau

8.    Gweithgareddau Awyr Agored

9.    Gwirfoddoli

10. Gweithgareddau Dyngarol

11. Rhwydwaith o ddarpariaeth Gymunedol

12. Cyfleoedd Rhyngwladol

13. Cyhoeddiadau

14. Mistar Urdd (Masgot yr Urdd)

15. Cyfeiriadau

16. Dolenni Allanol

1.  Hanes Urdd Gobaith Cymru

Cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu yn 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny. Yn rhifyn mis Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ meddai Syr Ifan ab Owen Edwards, ‘Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.’ 

Apeliodd ar blant Cymru i ymuno a mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg, ac o ganlyniad i hynny, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru.

Crëwyd Logo yr Urdd y 1922

2.  Yr Urdd Heddiw

Ar drothwy ei chanmlwyddiant mae gan yr Urdd uchelgais i sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn cael mynediad at ddarpariaeth a phrofiadau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch gadarnhaol a chymdeithasol.

https://www.urdd.cymru/files/5515/6345/2502/Urdd-Cynllun-Corfforaethol-2019-22-FINAL-LOWRES.pdf -

https://www.urdd.cymru/cy/amdanom-ni/adroddiad-blynyddol/

Ffeithiau am yr Urdd heddiw 2018/2019

·      56,000 o aelodau

·      10,000 o wirfoddolwyr

·      308 staff

·      100,000 yn cystadlu yng nghystadlaethau chwaraeon

·      47, 000 yn mynychu’r gwersylloedd

·      70,000 yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd

·      60% o holl ysgolion Cymru yn ymwneud â’r Urdd

·      Cynhyrchu gwerth economaidd o £31miliwn i Gymru  <https://www.urdd.cymru/files/8015/4219/7322/Asesiad_Effaith_Economaidd_yr_Urdd_09.11.18_Cymraeg.pdf>

Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yw Sian Lewis.

3. Canolfannau Preswyl

Mae’r Urdd yn cynnig profiadau preswyl mewn 5 canolfan preswyl, pob un ohonynt ag arbenigedd penodol: Gwersyll Llangrannog, Llangrannog Ceredigion a gweithgareddau hamddena, Gwersyll Glan-llyn, Bala, Gwynedd yn darparu antur awyr agored; Gwersyll Caerdydd â phrofiadau dinesig ym Mae Caerdydd; Pentre Ifan Sir Benfro yn datblygu arbenigedd amgylcheddol a lles; Tŷ Kisbodak Ház yn Hwngari sydd yn cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc Cymru. 

Mae dros 47,000 o breswylwyr yn ymweld â Gwersylloedd yr Urdd yn flynyddol[5] <https://en.wikipedia.org/wiki/Urdd_Gobaith_Cymru>.

Nod y Gwersylloedd yw creu canolfannau sy'n cynnig cyfleoedd i blant, ieuenctid ac oedolion breswylio, addysgu a chymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig, diogel a chroesawgar.

Sefydlwyd ‘Gronfa Cyfle i Bawb’ sydd yn cynnig ariannu cyfnod ar wersyll haf i blant a phobl ifanc sy'n dod o gefndir incwm isel.

4. Darpariaeth Chwaraeon

Mae adran chwaraeon yr Urdd yn darparu cyfleodd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon trwy raglen o wyliau a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.  Cefnogir hyn gan rwydwaith eang o glybiau chwaraeon lleol a rhaglen cymhwyso arweinwyr chwaraeon ifanc.  Yn 2019 roedd 45,000 o bobl ifanc wedi cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae'r Adran Chwaraeon, gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, bellach yn cyflogi 20 o staff ac yn hyfforddi dros 1,000 o wirfoddolwyr yn flynyddol. Mae hyn wedi trawsnewid gallu’r mudiad i gynnig gweithgareddau cyson i blant a phobl ifanc, gyda 150 o glybiau chwaraeon yn cael eu cynnal yn wythnosol ar draws y wlad, a dros 15,000 o blant yn mynychu.[4]

Mae’r Urdd yn cydweithio gyda’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGOs) a darparwyr e.e. URC. Swim Wales, Gymnastics Cymru

5. Celfyddydau a Diwylliant

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y Sulgwyn. Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod yn cynnwys cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio, celf, dawns, offerynnol, llenyddol.

Cynhelir Eisteddfodau Cylcha Sir ar draws Cymru yn ystof misoedd y gwanwyn gyda’r enillwyr yn cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol.  Mae’r Eisteddfod yn cael ei darlledu ar y teledu gan S4C http://s4c.urdd.cymru/cy/

Cynhaliwyd Eisteddfod 2019 ym Mae Caerdydd. Yn 2020, fe gynhelir yn Nimbych ac yn 2021 fe gynhelir yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin

Cwmni theatr deithiol yw Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru sydd yn rhoi cyfleoedd ar y llwyfan a chefn llwyfan i bobl ifanc i fwynhau ac ymestyn eu profiadau celfyddydol. ‘Aberhenfelin’ oedd cynhyrchiad 2019 a sgriptwyd gan 3 enillydd  cenedlaethol diweddar ym maes theatr a sgriptio.


6.  Gwaith Ieuenctid

Mae gan Urdd Gobaith Cymru gweithlu cymwys o weithwyr ieuenctid, yn unol ag anghenion phobl ifanc yn darparu mynediad agored at ddarpariaeth sydd yn grymuso pobl ifanc wrth iddynt bontio o addysg ffurfiol i’r gweithlu.

Ar y cyd gyda rhwydwaith o lysgenhadon, fforymau ieuenctid rhanbarthol a’r fforwm Ieuenctid cenedlaethol (Bwrdd Syr IfanC) mae pobl ifanc yn medru mynegi eu barn ar faterion sydd y eu heffeithio nhw.

Mae gwaith ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn sicrhau, trwy gyfrwng y Gymraeg, bod pobl ifanc yn ffynnu gyda chefnogaeth eu cyfoedion a gweithwyr ieuenctid.


7.  Prentisiaethau a Sgiliau

Ers 2014, mae Urdd Gobaith Cymru wedi darparu cynllun Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru.  Mae’r llwybrau galwedigaethol yn cynnwys gwasanaethau awyr agored, chwaraeon a gwaith ieuenctid.  Nod cynllun prentisiaethau'r Urdd yw creu gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog yn, er mwyn sicrhau bod oedolion ifanc yn dysgu, datblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol ac yn magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r cynllun prentisiaeth ar gael i sefydliadau tu allan i’r Urdd sut am ddatblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg. Yr Urdd yw’r darparydd 3ydd sector fwyaf ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg gyda nod i gyrraedd 100 o brentisiaid erbyn 2022.


8.  Gweithgareddau Awyr Agored

Mae'r Gwasanaeth Awyr Agored yn cynnig gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Cynllunnir y gweithgareddau yn unol ag anghenion y grŵp ac ynghyd a chymwysterau a hyfforddiant awyr agored.  Dyma un o’r gwasanaethau sydd yn datblygu’n gyflym ac yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc 15oed+.  Urdd Gobaith Cymru yw darparydd mwyaf o alldeithiau Gwobr Dug Caeredin (DOFE) yn y Gymraeg yng Nghymru. 


9.  Gwirfoddoli

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn yr Urdd a thrwy ei phartneriaid allanol.  Gall pobl ifanc ac oedolion gwirfoddoli trwy arwain adrannau ac aelwydydd, clybiau chwaraeon, ymweliadau a theithiau preswyl rhyngwladol, swyddogaethau amrywiol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a thrwy fod yn SWOG yn un o ganolfannau preswyl yr Urdd.  Yn flynyddol mae 10,000 o bobl ifanc ac oedolion yn gwirfoddoli i’r Urdd. 


10.               Gwaith Dyngarol a Neges Heddwch ac Ewyllys Da

Pob blwyddyn ers 1922, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi ysgrifennu a rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys da at blant a phobl ifanc y byd, a hynny ar Ddydd Ewyllys Da, sef Mai 18. Nod y neges yw lleihau rhagfarn ac anwybodaeth gan bwysleisio'r hyn sy’n gyffredin i holl blant y byd.

Datblygir y neges hyd heddiw fel ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, a thros y blynyddoedd derbyniwyd sawl ymateb o wledydd eraill. Mae'r broses o ysgrifennu ac anfon neges ar ran pobl ifanc Cymru i bobl ifanc ar draws y byd wedi ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.

Mae gweithgareddau dyngarol y mudiad yn cynnwys, cefnogi ymgyrch i ddileu digartrefedd ymysg yr ifanc, cefnogi ymgyrchoedd a rhaglenni iechyd meddwl pobl ifanc a chodi arian i achosion lleol e.e. banciau bwyd lleol ac ysbytai.


11.               Rhwydwaith o ddarpariaeth gymunedol

Trwy rwydwaith o 10,000 o wirfoddolwyr ymroddedig a 1,000 o glybiau, mae pobl ifanc Cymru yn medru mynychu gweithgareddau o fewn eu cymunedau.  Mae gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn arwain Adrannau (clybiau 8-11 oed) ac aelwydydd (11-25 oed).


12.               Cyfleoedd Rhyngwladol

Ers sefydlu'r Urdd rhoddwyd pwyslais ar gyfleoedd rhyngwladol, gan feithrin gwerthoedd byd eang y parchir yng Nghymru.  Mae pobl ifanc yn cael y cyfle i lysgenhadu ar ran Cymru a’r Gymraeg.  Ar drothwy ei chanmlwyddiant, mae ‘r Urdd wedi adfywio ac ehangu’r cynnig rhyngwladol i bobl ifanc.  Fel rhan o strategaeth ryngwladol newydd yr Urdd, sefydlir partneriaethau newydd i greu cyfleodd mwy amrywiol.  Heddiw (2019) mae pobl ifanc yn cael y cyfle i wirfoddoli ac ymweld â Alabama USA, Kenya. Sydney Awstralia, Cameroon, Hong Kong and Shanghai, Patagonia and Hwngari.


13.               Cyhoeddiadau

Cynhyrchir 3 cylchgrawn i bant a phobl ifanc.. 

Bore Da - Cylchgrawn lliwgar a chyffrous i ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith oed cynradd..

CIP - Cylchgrawn bywiog Cymraeg i blant 7-10 oed gyda chynnwys digidol ac mewn print gyda 5 rhifyn y flwyddyn.

IAW - Cylchgrawn cyfoes a lliwgar ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd. Mae'n llawn erthyglau difyr, gweithlenni addysgiadol a chynnwys diddorol ac atyniadol i bobl ifanc sy'n dysgu'r iaith.

14.               Mistar Urdd

Mistar Urdd (Mr Urdd) yw masgot yr Urdd, wedi seilio ar logo a bathodyn Urdd Gobaith Cymru, mae yn boblogaidd gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.  Mae gan Mistar Urdd ei gân ei hun sef ‘Hei Mistar Urdd’