Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Llên Wcráin

Oddi ar Wicipedia

Ceir gwreiddiau llên Wcráin mewn llên lafar y bobloedd baganaidd, llwythau Slafaidd cynnar, a drigodd yn rhanbarth hanesyddol Rws yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, yn y tiroedd ar hyd afonydd Volga yn y gogledd a Dnieper yn y de. Dygwyd y traddodiad ysgrifenedig i'r amlwg yn sgil cristioneiddio'r Slafiaid yn niwedd y 10g, trwy gyfrwng yr iaith Hen Slafoneg Eglwysig. Blodeuai llenyddiaeth grefyddol, ac i raddau llai seciwlar, yn Rws Kiefaidd o'r 11g i'r 13g; pregethau, chwedlau a chroniclau, a bucheddau'r saint oedd y prif genres.

Dinistriwyd rhan fawr o lên Wcráin yn ystod yr helyntion a therfysgoedd a ddilynai cwymp Rws Kiefaidd: goresgyniadau'r Mongolwyr, cyrchoedd Tatariaid y Crimea, y cynnwrf crefyddol yn yr 16g, a'r Distryw yn ail hanner yr 17g. Adfywiai bywyd llenyddol yn y cyfnod Cosacaidd, yn yr ieithoedd Rwseg a Phwyleg yn bennaf, ond eto byddai newidiadau hanesyddol yn achosi colled nifer fawr o weithiau yn sgil dirywiad diwylliannol ar draws Ymerodraeth Rwsia wedi teyrnasiad Pedr Fawr. Câi'r iaith Wcreineg ysgrifenedig ei safoni ar wahân i'r ieithoedd Slafonaidd eraill yn y 18g ar sail iaith y werin, ac erbyn dechrau'r 19g bu digon o hyder gan lenorion Wcreinaidd i ysgrifennu drwy gyfrwng eu mamiaith, a dyna felly oedd oes gychwynnol llenyddiaeth Wcreineg. Er gwaetha'r ymddeffroad cenedlaethol hwn, byddai nifer o ffigurau llenyddol yn gwadu'r hen etifeddiaeth ac yn lladd ar dueddiadau polemig yr awduron o ddiwedd yr 16g a dechrau'r 17g. O ganlyniad, dim ond ychydig o gopïau sydd yn goroesi o'r gweithiau hyn, er mai cyfnod y wasg argraffu ydoedd.

Mae llenyddiaeth Wcreineg y 19g yn adlewyrchu twf cyflym cenedlaetholdeb Wcreinaidd dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Ystyrir Eneida (1798), ffugarwrgerdd fwrlésg gan Ivan Kotliarevsky (1769–1838), yn fan cychwyn llenyddiaeth Wcreineg. Bardd, dramodydd a chlasurydd oedd Kotliarevsky, a ddefnyddiodd yr arwrgerdd Ladin Aenid gan Fyrsil yn fodel ar gyfer parodi o Gosaciaid Zaporizhzhia. Y gwaith rhyddiaith cyntaf i'w gyhoeddi yn Wcreineg oedd y nofel Marusya (1834) gan Hryhorii Kvitka-Osnovianenko (1778–1843).

Rws Kiefaidd (9g–13g)[golygu | golygu cod]

Tudalen o'r Izbornik (sef casgliad amrywiol) cyntaf, llawysgrif goliwiedig yn Hen Slafoneg Eglwysig a gynhyrchwyd ar gais Sviatoslav II ym 1073.

Gellir olrhain y traddodiad llafar yn Wcráin yn ôl i'r oesoedd cyn-Gristnogol, pryd siaredid Slafoneg Cyffredin. Yn sgil cristioneiddio'r Slafiaid, addaswyd defod-ganeuon paganaidd ar gyfer gwyliau'r eglwys. Mabwysiadwyd Cristnogaeth yn grefydd swyddogol Rws Kiefaidd yn 988, pryd ddaeth dan awdurdodaeth yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yng Nghaergystennin, ac wedi hynny datblygai'r traddodiad ysgrifenedig yn Wcráin. Yn yr oesoedd hyn, Hen Slafoneg Eglwysig oedd yr iaith litwrgïaidd a'r iaith lenyddol safonol ymhlith Cristnogion Slafaidd Dwyrain Ewrop. Yn ogystal â chyfieithiadau o destunau crefyddol Groeg, ac addasiadau o lawysgrifau a droswyd eisoes i ieithoedd Slafonaidd y Balcanau, cynhyrchwyd casgliadau gwreiddiol o bregethau a bucheddau'r saint. Dan nawdd Sviatoslav II, Uchel Dywysog Kyiv, cyflawnwyd ym 1073 a 1076 ddau gasgliad (izbornik) o amrywiol awduron, gan gynnwys detholiadau o'r Beibl. Yr esiamplau amlycaf o bregethau'r cyfnod yw casgliadau Ilarion, Archesgob Kyiv yn ystod y Sgism Fawr, Vladimir II Monomakh, Uchel Dywysog Kyiv yn nechrau'r 12g, a'r Esgob Kirill o Turov a flodeuai yn ail hanner y 12g. Prif hagiograffeg yr oes hon oedd y patericon ("bucheddau'r Tadau") a gesglid ym Mynachlog Ogofâu Kyiv yn y 13g.

Y prif weithiau ysgrifenedig seciwlar yn yr Oesoedd Canol oedd y croniclau (neu letopisau), sydd yn ddogfennau hanesyddol pwysig yn ogystal â thraethiadau llenyddol. Priodolir i fynach o'r enw Nestor ysgrifennu Chwedl y Blynyddoedd a Fu, a elwir hefyd y Cronicl Cyntaf, yn Hen Slafoneg y Dwyrain yn Kyiv tua 1113. Yn y cronicl hwn, ceir hanes o Rws Kiefaidd o ganol y 9g hyd at ddechrau'r 12g. Enghreifftiau arall o'r ffurf lenyddol hon yw Cronicl Kyiv, a ysgrifennwyd gan sgrifellwyr dienw tua 1200 ym Mynachlog Vydubychi fel dilyniant i Chwedl y Blynyddoedd a Fu, a Chronicl Galisia-Volhynia, sydd yn ymwneud ag hanes Rwthenia yn y 13g. Yn Rws Kiefaidd hefyd ysgrifennwyd y campwaith seciwlar cyntaf yn yr Hen Rwseg, yn ddienw, sef yr arwrgerdd Cân Ymgyrch Igor (1187).

O ran yr hen draddodiad llafar, byddai'r beirdd a chantorion gwerin yn canu arwrgerddi'r Oesoedd Canol, y byliny, yn Rwtheneg yn bennaf, hyd at yr 16g.

Tra-arglwyddiaeth y Mongolwyr a'r Pwyliaid (13g–16g)[golygu | golygu cod]

Dirywiodd bywyd llenyddol yn sgil gorchfygiad Rws Kiefaidd gan y Llu Euraid ym 1240. Heb nawddogaeth draddodiadol yr eglwys a'r llys, ni chynhyrchwyd unrhyw weithiau ysgrifenedig o bwys nes yr 16g.


Yuriy Drohobych - Slafoneg Eglwysig

Y cyfnod Cosacaidd (16g–18g)[golygu | golygu cod]

dumy

Hryhoriy Skovoroda - Slafoneg Eglwysig, Rwseg, Wcreineg

Tra-arglwyddiaeth y Rwsiaid (18g–19g)[golygu | golygu cod]

Theophan Prokopovich - Rwseg

kobzar Ostap Veresai

Y cyfnod Sofietaidd (20g)[golygu | golygu cod]

Y cyfnod modern (21g)[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]