Defnyddiwr:Llywelyn2000/Pwll Tywod
Mae'r Comoros (neu'n swyddogol Undeb y Comoros), yn wlad archipelagaidd sy'n cynnwys tair ynys yn Ne-ddwyrain Affrica, a leolir ym mhen gogleddol Sianel Mosambic, yng Nghefnfor India. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Moroni. Crefydd mwyafrif y boblogaeth, a chrefydd swyddogol y wladwriaeth, yw Swnni. Cyhoeddodd Comoros ei hannibyniaeth oddi wrth Ffrainc ar 6 Gorffennaf 1975. Y Comoros yw unig wlad y Gynghrair Arabaidd sydd yn gyfan gwbl yn Hemisffer y De. Mae'n aelod-wladwriaeth o'r Undeb Affricanaidd, y Sefydliad internationale de la Francophonie, y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd, a Chomisiwn Cefnfor India. Ceir tair iaith swyddogol: Shikomorieg, Ffrangeg ac Arabeg.
Yn 1,659 km2 (641 mi sgw) , y Comoros yw'r drydedd wlad leiaf yn Affrica yn ôl arwynebedd. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod ei phoblogaeth yn 850,886. Mae'r wladwriaeth sofran yn cynnwys tair prif ynys a nifer o ynysoedd llai, pob un o'r Ynysoedd Comoro ac eithrio Mayotte sy'n Département o fewn i Ffrainc. Pleidleisiodd Mayotte yn erbyn annibyniaeth oddi wrth Ffrainc mewn refferendwm yn 1974, ac mae'n parhau i gael ei gweinyddu gan Ffrainc fel rhanbarth dramor. Mae Ffrainc wedi rhoi feto ar benderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a fyddai wedi cadarnhau sofraniaeth Comoria dros yr ynys.[1][2][3][4] Daeth Mayotte yn un o Départements Ffrainc yn 2011 yn dilyn refferendwm llethol.
Credir i'r Comoros gael ei boblogi am y tro cyntaf gan bobl Awstronesaidd / Malagasi, siaradwyr Bantw o Ddwyrain Affrica, a masnachwyr Arabaidd morwrol.[5] O 1500 ymlae roedd Swltanad Anjouan yn rheoli'r ynysoedn ag eithrio'r Grande Comore wedi'i rannu rhwng sawl swltan. Daeth yn rhan o ymerodraeth drefedigaethol Ffrainc yn ystod y 19g, cyn ei hannibyniaeth yn 1975. Mae wedi profi mwy nag 20 coup neu ymgais o'r fath, gyda phenaethiaid gwladwriaethau amrywiol wedi'u llofruddio.[6][7] Ynghyd â’r ansefydlogrwydd gwleidyddol cyson hwn, mae ganddi un o’r lefelau uchaf o anghydraddoldeb incwm drwy'r byd, ac mae yn y chwartel canolig ar y Mynegai Datblygiad Dynol.[8] Rhwng 2009 a 2014, roedd tua 19% o'r boblogaeth yn byw o dan y llinell dlodi ryngwladol o US$1.90 y dydd trwy gydraddoldeb pŵer prynu.[9]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'r enw "Comoros" yn deillio o'r gair Arabeg قمر qamar ("lleuad").[10]
Hanes
[golygu | golygu cod]Aneddiadau
[golygu | golygu cod]Yn ôl mytholeg, gollyngodd jinni (ysbryd) em, a ffurfiodd pelen o dân crwn enfawr. Daeth hwn ymhen amser yn llosgfynydd Karthala, a greodd ynys Ngazidja (Grande Comore). Dywedir hefyd i'r Brenin Solomon ymweld â'r ynys yng nghwmni'r frenhines Bilqis.
Credir bellach mai ymsefydlwyr Awstronesaidd oedd yn teithio ar gwch o ynysoedd yn Ne-ddwyrain Asia oedd trigolion cyntaf Ynysoedd Comoro.[11][12] Cyrhaeddodd y bobl hyn yr ardal ddim hwyrach na'r 8g OC, sef dyddiad y safle archeolegol cynharaf y gwyddys amdano, a ddarganfuwyd ar Mayotte, er bod ychydig o dystiolaeth fod anheddu a ddechreuodd yn y ganrif gyntaf ar gael.[13]
Llywodraeth
[golygu | golygu cod]Mae gwleidyddiaeth y Comoros yn digwydd mewn fframwaith o weriniaeth arlywyddol unedol[14] (unitary presidential republic), lle mae Arlywydd y Comoros yn bennaeth y wladwriaeth ac yn bennaeth y llywodraeth, ac o system amlbleidiol. Cadarnhawyd Cyfansoddiad Undeb y Comoros drwy refferendwm ar 23 Rhagfyr 2001, ac etholwyd swyddogion gweithredol a cyfansoddiad yr ynysoedd yn y misoedd dilynol. Roedd wedi cael ei hystyried yn unbennaeth filwrol cyn hynny, ac roedd trosglwyddo pŵer o Azali Assoumani i Ahmed Abdallah Mohamed Sambi ym Mai 2006 yn drobwynt gan mai hwn oedd y trosglwyddiad heddychlon cyntaf yn hanes Comoros.
Mae pŵer gweithredol yn cael ei arfer gan y llywodraeth ac mae pŵer deddfwriaethol wedi'i freinio yn y llywodraeth a'r senedd.[15] Mae gan bob un o'r ynysoedd (yn ôl Teitl II o'r Cyfansoddiad) lawer iawn o ymreolaeth annibynnol, gan gynnwys cael eu cyfansoddiadau eu hunain (a elwir hefyd yn Gyfraith Sylfaenol), eu harlywydd eu hunain a Senedd eu hunain.[16]
Hawliau dynol
[golygu | golygu cod]Mae gweithredoedd rhywiol gwrywaidd a benywaidd o'r un rhyw (gweithgaredd cyfunryw) yn anghyfreithlon yn Comoros.[17] Mae gweithredoedd o'r fath yn cael eu cosbi gyda hyd at bum mlynedd o garchar.[18]
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig]] [[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd]] [[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Cynghrair Arabaidd]] [[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Undeb Affricanaidd]] [[Categori:Gwledydd a thiriogaethau Ffrangeg]] [[Categori:Cyn-ffederasiynau]] [[Categori:Gwledydd a thiriogaethau Arabeg]] [[Categori:Gwledydd Affrica]] [[Categori:Y Comoros]] [[Categori:Erthyglau sy'n cynnwys testun Arabeg]] [[Categori:Erthyglau sy'n cynnwys testun Ffrangeg]]
- ↑ "Question of the Comorian island of Mayotte" (PDF). United Nations General Assembly Resolution. 21 October 1976. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 April 2008. Cyrchwyd 18 February 2024.
- ↑ "Comoros – Permanent Mission to the United Nations". 6 January 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 January 2008. Cyrchwyd 18 February 2024.
- ↑ "Subjects of UN Security Council Vetoes". Global Policy Forum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2008. Cyrchwyd 27 March 2008.
- ↑ "Article 33, Repertory, Supplement 5, vol. II (1970–1978)" (PDF). United Nations, Office of Legal Affairs (OLA). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 6 October 2014.
- ↑ Nicolas Brucato; Veronica Fernandes; Stéphane Mazières; Pradiptajati Kusuma; Murray P. Cox; Joseph Wainaina Ng'ang'a; Mohammed Omar; Marie-Claude Simeone-Senelle et al. (4 January 2018). "The Comoros Show the Earliest Austronesian Gene Flow into the Swahili Corridor". American Journal of Human Genetics (American Society of Human Genetics) 102 (1): 58–68. doi:10.1016/j.ajhg.2017.11.011. PMC 5777450. PMID 29304377. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5777450.
- ↑ "Anti-French protests in Comoros". BBC News. 27 March 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 March 2008. Cyrchwyd 27 March 2008.
- ↑ "Intrigue in the world's most coup-prone island paradise". The Economist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 January 2019. Cyrchwyd 25 January 2019.
- ↑ "Human Development Report 2021/2022" (PDF). United Nations Development Programme. 2022. t. 283.
- ↑ "Human Development Report 2021/2022" (PDF). United Nations Development Programme. 2022. t. 297.
- ↑ "The Islands of the Moon". Aramco World 47 (4): 40. July–August 1996. http://www.comores-online.com/mwezinet/histoire/islandsofthemoon.htm. Adalwyd 20 September 2007.
- ↑ Alison Crowther; Leilani Lucas; Richard Helm; Mark Horton; Ceri Shipton; Henry T. Wright (2016). "Ancient crops provide first archaeological signature of the westward Austronesian expansion". Proceedings of the National Academy of Sciences 113 (24): 6635–6640. arXiv:etal. Bibcode 2016PNAS..113.6635C. doi:10.1073/pnas.1522714113. PMC 4914162. PMID 27247383. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4914162.
- ↑ Nicolas Brucato; Veronica Fernandes; Stéphane Mazières; Pradiptajati Kusuma; Murray P. Cox (2018). "The Comoros show the earliest Austronesian gene flow into the Swahili Corridor". The American Journal of Human Genetics 102 (1): 58–68. arXiv:etal. doi:10.1016/j.ajhg.2017.11.011. PMC 5777450. PMID 29304377. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5777450.
- ↑ Federal Research Division of the Library of Congress under the Country Studies/Area Handbook Program (August 1994). Ralph K. Benesch (gol.). A Country Study: Comoros. Washington, D.C.: US Department of the Army. Cyrchwyd 15 January 2007.
- ↑ "Comoros 2018". Constitute. Cyrchwyd 30 January 2024.
- ↑ "Comoros 2001 (rev. 2009)". Constitute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 September 2015. Cyrchwyd 23 April 2015.
- ↑ "Fundamental Law of the Union of Comoros (English excerpts)". Centre for Human Rights, University of Pretoria, South Africa. 23 December 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol (DOC) ar 9 October 2006. Cyrchwyd 25 April 2021.
- ↑ Avery, Daniel (4 April 2019). "71 Countries Where Homosexuality is Illegal". Newsweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2019. Cyrchwyd 16 August 2019.
- ↑ "State-Sponsored Homophobia". International Lesbian Gay Bisexual Trans and Intersex Association. 20 March 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 February 2020. Cyrchwyd 16 August 2019.