Deddf Rhaglawiaethau 1997
Gwedd
| Enghraifft o: | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
|---|---|
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1997 |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Deddf a basiwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n diffinio ardaloedd y penodir Arglwyddi Rhaglaw iddynt yn Lloegr, yr Alban a Chymru yw Deddf Rhaglawiaeth 1997 (Saesneg: Lieutenancies Act 1997). Daeth i rym ar 1 Gorffennaf 1997.
Ar ôl i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ddod i rym ar 1 Ebrill 1996, aildrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Disodlwyd y drefn flaenorol a oedd wedi'i seilio ar ddwy haen o lywodraeth leol – sef y siroedd a'r dosbarthau – gan drefn ag un haen yn unig – sef 22 o awdurdodau unedol. At ddibenion seremonïol cadwyd y drefn o wyth sir a fodolai o 1974 i 1996 fel ardaloedd rhaglawiaeth, a galwyd yr ardaloedd hyn yn "Siroedd cadwedig". Gwnaed trefniadau cyffelyb yn Lloegr a'r Alban.