De architectura

Oddi ar Wicipedia
De architectura
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Label brodorolDe architectura libri decem Edit this on Wikidata
AwdurVitruvius Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 g CC Edit this on Wikidata
Genretraethawd Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolDe architectura libri decem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Traethawd ar bensaernïaeth gan y pensaer Rhufeinig Vitruvius yw De architectura. Fe'i hysgrifenwyd tua 30–20 CC a gysegrwyd i’w noddwr, yr ymerawdwr Augustus. Dyma'r unig draethawd ar bensaernïaeth sydd wedi goroesi o'r cynfyd. Ar ôl iddo ddod ar gael fel llyfr printiedig ar ddiwedd y 15g, cafodd y llyfr ddylanwad aruthrol ar benseiri’r Dadeni, ac mae'n parhau yn ffynonell bwysig o syniadau hyd heddiw.

Mae'n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am adeiladau Groegaidd a Rhufeinig, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar gyfer cynllunio a dylunio gwersylloedd milwrol, dinasoedd, a strwythurau mawr (traphontydd dŵr, adeiladau, baddonau, harbyrau) a bach (peiriannau, dyfeisiau mesur, offer).

Rhennir De architectura yn ddeg llyfr:

  • Llyfr I: Cynllunio trefol, pensaernïaeth a pheirianneg sifil yn gyffredinolhyfforddiant a sgiliau'r pensaera pheiriannydd sifil
  • Llyfr II: Technegau a defnyddiau adeiladu; tarddiad pensaerïaeth
  • Llyfr III: Temlau a dulliau pensaernïaeth
  • Llyfr IV: Parhad llyfr III
  • Llyfr V: Adeiladau cyhoeddus, yn enwedig y fforwm, y basilica a'r theatr
  • Llyfr VI: Adeiladau domestig
  • Llyfr VII: Wynebau ac addurniadau
  • Llyfr VIII: Cyflenwadau dŵr a thraphontydd dŵr
  • Llyfr IX: Y gwyddorau sydd o bwys i bensaernïaeth – geometreg, mesuriad, seryddiaeth
  • Llyfr X: Creu a defnyddio peiriannau, megis peiriannau gwarchae, melinau dŵr, peiriannau draenio, gwindasau

Roedd angen i benseiri Rhufeinig feistroli sgiliau amrywiol o lawer o ddisgyblaethau. Ymdriniodd Vitruvius ag amrywiaeth eang o bynciau sy'n ymestyn y tu hwnt i'r hyn a ystyriwn yn awr yn bensaernïaeth. Mae'n trafod pynciau a all ymddangos yn amherthnasol nawr, gan gynnwys mathemateg, seryddiaeth, meteoroleg a meddygaeth. Fodd bynnag, roedd angen i bensaer Rhufeinig ystyried popeth yn ymwneud â bywyd corfforol a meddyliol dyn a'i amgylchoedd.

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Tudalen o gopi llawysgrif De architectura (15g)

Er bod llawer o gopïau o De architectura yn bodoli fel llawysgrifau yn ystod yr Oesoedd Canol ymddengys na chawsant fawr o sylw, ond cafodd y llyfr ei "ailddarganfod" yn 1414 gan yr ysgolhaig clasurol Poggio Bracciolini, a ddaeth o hyd copi yn llyfrgell Abaty Sant Gall, yn y Swistir. Wedyn astudiwyd y llawysgrif yn eiddgar gan feddylwyr eraill y Dadeni a oedd â diddordeb mewn adfywio treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol yr henfyd.

Cyhoeddwyd y fersiwn argraffedig gyntaf ym 1486, a'r fersiwn gyntaf a oedd yn cynnwys darluniau ym 1511. Wedi hynny cyhoeddwyd llawer o argraffiadau eraill, gan gynnwys cyfieithiadau i'r Eidaleg (1520au), Ffrangeg (1547), Almaeneg (1548), Sbaeneg (1582) a Saesneg (fersiwn talfyredig 1692; cyflawn 1771).

Cafodd y llyfr ddylanwad dwfn ar benseiri'r Dadeni, gan ysgogi aileni pensaernïaeth Glasurol yn y canrifoedd dilynol. Roedd yn galluogi penseiri megis Niccolò de' Niccoli, Filippo Brunelleschi a Leon Battista Alberti i ddod ag agwedd wyddonol systematig at eu crefft. Mae un o luniadau mwyaf adnabyddus Leonardo da Vinci, Dyn Vitruvius, yn seiliedig ar egwyddorion cyfrannedd y corff a ddatblygwyd gan Vitruvius yn Llyfr III.

Roedd y pensaer Seisnig Inigo Jones a’r Ffrancwr Salomon de Caus ymhlith y cyntaf i ail-werthuso a gweithredu’r disgyblaethau hynny yr oedd Vitruvius yn eu hystyried yn elfen angenrheidiol o bensaernïaeth: y celfyddydau a’r gwyddorau yn seiliedig ar rif a chyfrannedd. Roedd y pensaer hynod ddylanwadol o'r 16g Andrea Palladio yn ystyried Vitruvius fel ei feistr a'i dywysydd.

Darlun o deml yng nghyfieithiad Eidaleg o 1536

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]