Abaty Sant Gall
Gwedd
| Math | benedictine abbey |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | list of cultural properties in St. Gallen |
| Lleoliad | Downtown |
| Sir | St. Gallen |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 47.4231°N 9.3772°E |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Faróc |
| Statws treftadaeth | class A Swiss cultural property of national significance, Safle Treftadaeth y Byd |
| Sefydlwydwyd gan | Sant Gall |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Roman Catholic Diocese of Saint Gallen |

Abaty Benedictaidd yn ninas St. Gallen yn y Swistir yw Abaty Sant Gall. Mae'r abaty a'i llyfrgell yn Safle Treftadaeth y Byd.
Tyfodd yr abaty ar safle cell Sant Gall, sant Gwyddelig a ymsefydlodd yma tua 613. Penodiodd Siarl Martel ŵr o'r enw Othmar fel ceidwad creiriau Sant Gall, a sefydlodd Othmar ysgolion adnabyddus yma. Dan yr abad Waldo o Reichenau (740-814), copïwyd nifer fawr o lawysgrifau, a datblygodd llyfrgell a ystyrir yn un o'r llyfrgelloedd canoloesol pwysicaf yn Ewrop.
Roedd yr abaty yn gnewyllyn dinas-wladwriaeth grefyddol fwyaf pwerus y Swistir, gyda thiriogaethau eang. Yn 1798, seciwlareiddiwyd yr abaty a gyrrwyd y mynachod i abatai eraill.
