Sant Gall

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Gall

Sant Gwyddelig oedd Sant Gall, Gallen, neu Gallus (c. 550 - c. 646). Roedd yn ddisgybl i Sant Columbanus, ac aeth gydag ef ar ei daith efengylu i'r cyfandir. Pan aeth Columbanus ymlaen i'r Eidal yn 612, gorfodwyd Gall gan afiechyd i aros ar ôl yn y tiriogaethau sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Bu'n byw fel meudwy yn y goedwig i'r de-orllewin o'r Bodensee, ger tarddle Afon Steinach. Bu farw tua 646-650 yn Arbon, a dethlir ei ŵyl ar 16 Hydref.

Wedi iddo farw, adeiladwyd eglwys fechan, a ddatblygodd yn Abaty Sant Gall, a roddodd ei enw i ddinas St. Gallen. Ysgrifennwyd nifer o fucheddau iddo o'r 9fed ganrif ymlaen.