De Revolutionibus Orbium Coelestium

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tudalen deitl De Revolutionibus Orbium Coelestium (Nürnberg: Johannes Petreus, 1543), yr argraffiad cyntaf
Tudalen deitl De Revolutionibus Orbium Coelestium (Basel: Henricus Petrus, 1566), yr ail argraffiad

Llyfr gan Nicolaus Copernicus o'r pwysigrwydd mwyaf i hanes gwyddoniaeth oedd De Revolutionibus Orbium Coelestium ("Ynglŷn â chylchdroadau sfferau'r nef"). Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf yn Nürnberg, Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ym 1543. Mae gan y llyfr cyflwyniad i Bab Pawl III. Yn y gyfrol mae Copernicus yn cyflwyno ei theori heliosentrig ei theori i esbonio symudiadau'r planedau yn lle system geosentrig Ptolemi a dderbyniwyd yn gyffredinol ers oes yr Henfyd.

Dadleuodd Copernicus fod y bydysawd yn cynnwys wyth sffêr. Yn y sffêr mwyaf allanol oedd y sêr disymud, sefydlog; yn y canolbwynt oedd yr Haul. Roedd y planedau a oedd yn hysbys i seryddwyr ar y pryd yn cylchdroi o amgylch yr Haul, pob un yn ei sffêr ei hun, yn y drefn: Mercher, Gwener, Daear, Mawrth, Iau, Sadwrn. Fodd bynnag, roedd y Lleuad yn cylchdroi yn ei sffêr ei hun o gwmpas y Ddaear. Yr hyn yr ymddengys oedd chwyldro dyddiol yr Haul a sêr sefydlog o gwmpas y Ddaear mewn gwirionedd oedd cylchdro dyddiol y Ddaear ar ei echelin ei hun.

Diagram Copernicus o'r bydysawd, De Revolutionibus Orbium Coelestium (Nürnberg, 1543), ffolio 9v

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.